A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Masnachol / Swyddle
Swydd:
Rheolwr Masnachol
Cyflog:
Cystadleuol
Cyfeirnod:
REC002718
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
31-07-2025

Disgrifiad swydd

Sylwch: contract cyfnod penodol am 12 mis yw hwn

 

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, ac yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell ac i fod yn fwy arloesol.  Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb ei safbwynt ei hun, felly rydyn ni’n creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy wneud hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru.  Rydyn ni'n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono. 

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny’n rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli’r wlad i newid y ffordd y mae’n teithio, fel ein bod i gyd yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n ein hwynebu. 

 Rydyn ni’n weithle agored a chynhwysol, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni eisiau creu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i ddatblygu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i wireddu’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru, sef adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Cefnogi tîm y prosiect Cynllunio Gweithredol i gyflawni prosiectau allweddol yn llwyddiannus. Sicrhau bod prosiectau'n cael eu cyflawni yn unol â'r amserlen, y cyllidebau a'r prosesau llywodraethu y cytunwyd arnynt – gan ddarparu arbenigedd masnachol ar yr un pryd.

 

Bydd cyfrifoldebau’r swydd yn cynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill: 

  • Darparu cymorth masnachol arbenigol i dîm y prosiect gan eu cefnogi i gyflawni prosiectau yn unol â'r disgwyliadau.
  • Arwain y gwaith o ddylunio a gweithredu'r strategaeth Fasnachol a Chaffael, gan gynnwys caffael model masnachol hirdymor i gefnogi'r gwaith parhaus o reoli contractau. Datblygu mecanweithiau a chontractau sy'n addas i anghenion penodol y prosiect, yn unol â gofynion caffael TrC.
  • Cynrychioli TrC mewn trafodaethau masnachol gyda chyflenwyr trydydd parti.
  • Ymgymryd â gweithgareddau monitro a rheoli contractau gyda chyflenwyr trydydd parti.
  • Drafftio a negodi contractau gyda chyflenwyr trydydd parti (ar y cyd â phartïon perthnasol eraill TrC, gan gynnwys y tîm Cyfreithiol a Chaffael). Sicrhau bod y contractau hyn yn diwallu anghenion TrC, yn cyd-fynd â'n gwerthoedd craidd ac yn sicrhau gwerth am arian.
  • Datblygu fframweithiau caffael. Gweithio gyda thimau mewnol perthnasol i ddatblygu fframweithiau caffael pwrpasol y gall TrC eu defnyddio i gael gafael ar wasanaeth cyflenwyr trydydd parti.
  • Arwain y gwaith o ddylunio a gweithredu'r strategaeth a'r gweithgareddau ymgysylltu â'r farchnad. Ymgysylltu â chyflenwyr yn y meysydd perthnasol gan ennill dealltwriaeth drylwyr o'r farchnad a datblygu cysylltiadau sy'n gallu esblygu a bod o fudd i'r cyflenwr a TrC fel ei gilydd.
  • Monitro a rheoli perfformiad cyflenwyr yn agos. Hyrwyddo rhagoriaeth weithredol a phrofiad cadarnhaol i gwsmeriaid. Sicrhau bod cyflenwyr yn glynu wrth gytundebau lefel gwasanaeth contractiol ac yn cydweithio i sicrhau bod y rhain yn cael eu bodloni neu y rhagorir arnynt.

Am beth rydyn ni’n chwilio

  • Profiad o weithio mewn swydd fasnachol/rheoli cysylltiadau.
  • Gwybodaeth arbenigol a phrofiad o weithio ym maes caffael yn y sector cyhoeddus a/neu mewn amgylchedd caffael rheoledig, gan gynnwys gwybodaeth am gaffael a chyfraith contractau mewn perthynas â’r Ddeddf Caffael.
  • Dealltwriaeth a phrofiad o reoli contractau gyda'r gallu i nodi cyfleoedd a risgiau.
  • Profiad o'r diwydiant rheilffyrdd neu’r sector trafnidiaeth.
  • Profiad amlwg o weithio gyda rhanddeiliaid allanol a dylanwadu arnynt.
  • Gallu meithrin a chynnal perthnasoedd rhyngbersonol cryf.
  • Llwyddiant blaenorol yn cyflawni prosiectau.

 

Sgiliau Cymraeg

Byddai’r gallu i siarad/ysgrifennu yn y Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn hyrwyddo ac yn cefnogi gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i gynnal, i ddatblygu ac i loywi eu sgiliau Cymraeg. Rydyn ni'n rhoi cefnogaeth lawn i'n staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Cymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd, fel dysgu ar-lein, cyrsiau mewn ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd i gyrsiau cymunedol lleol.

 

 

Y camau nesaf

Ai'r swydd hon yw'r cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi ragor o wybodaeth? Trowch at y Disgrifiad Swydd sydd wedi'i atodi i gael rhagor o fanylion.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl. Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau wedi dod i law.