A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Swyddog Gwaith Achos (Cymraeg) / Swyddle
Swydd:
Swyddog Gwaith Achos (Cymraeg)
Lleoliad:
Pen-y-bont ar Ogwr, Hybrid
Cyflog:
£31,017 - £33,675
Cyfeirnod:
OC261106
Sgiliau Cymraeg:
Hanfodol (Lefel 3 / B2)
Math o Swydd:
Parhaol ( Llawn amser 37awr )
Cleient:
Dyddiad Cau:
24-11-2026

Ydych chi wedi graddio’n ddiweddar ac yn gallu gwneud gwaith yn Gymraeg (ar lafar ac ar bapur)? Oes gennych chi sgiliau da o ran gwasanaeth cwsmeriaid neu ddelio â chwynion? 

Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn awyddus i recriwtio unigolyn Graddedig i rôl Swyddog Gwaith Achos i ddarparu gwasanaeth i aelodau o’r cyhoedd ac eraill a all gysylltu â swyddfa’r Ombwdsmon gyda chwynion neu ymholiadau.  

Yn y swydd, byddwch yn rheoli llwyth achosion, yn cynnal asesiadau cychwynnol o gwynion ac yn arfer awdurdod dirprwyedig yr Ombwdsmon.  Byddwch yn defnyddio’r system rheoli achosion mewnol, yn prosesu cwynion a gohebiaeth gan gynnwys gwrthodiadau syml, fel cwynion sydd yn amlwg y tu allan i’n hawdurdodaeth.  

I lwyddo yn y swydd hon, bydd angen i chi ddangos sgiliau gwych ar y ffôn ac o ran gwasanaeth cwsmeriaid, gallu delio â chwynion yn ogystal â gallu defnyddio TG a gallu gwneud gwaith yn Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig).

Mae hon yn swydd hybrid, lle mae angen rhywfaint o bresenoldeb bob wythnos yn ein swyddfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae’n hanfodol bod y rhai sy’n gweithio i’r Ombwdsmon yn ddiduedd a’u bod yn cael eu hystyried yn ddiduedd.  Felly, ni chaniateir i staff sy’n gweithio i’r Ombwdsmon gymryd rhan mewn gweithgarwch gwleidyddol ac mae’n rhaid iddynt osgoi gwneud sylwadau gwleidyddol yn gyhoeddus, er enghraifft ar gyfryngau cymdeithasol.  Cyn eu penodi, gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus lofnodi datganiad yn cadarnhau eu bod yn cytuno i lynu at ein polisi o ran cyfryngau cymdeithasol ac adolygu eu hôl troed cyfryngau cymdeithasol ar draws pob llwyfan a ddefnyddir ganddynt. 

I wneud cais

Cliciwch “Ceisio Nawr” i gael eich ailgyfeirio i’r swydd wag ar Ombudsman.Cymru.

Cyflwynwch eich Ffurflen Gais  a’r Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal drwy anfon ebost at: recriwtio@ombwdsmon.cymru Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw: Hanner dydd, 27 Tachwedd 2026.  Cofiwch fod gennym yr hawl i gau’r cyfle hwn yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.  

Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.
Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo’n weithredol i hyrwyddo a chymryd rhan mewn arferion da yn y ffordd rydym yn denu, yn recriwtio ac yn cadw staff.