Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG), is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru, yn darparu gwasanaethau hanfodol i bob oedran o ran cyfarwyddyd gyrfaoedd a darparu anogaeth. Mae’r gwasanaethau a ddarperir yn annibynnol a diduedd ac ar gael ledled Cymru, gan gynnwys drwy raglen Cymru’n Gweithio.
• Ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc ac oedolion i gymryd camau cadarnhaol tuag at gyflawni eu huchelgeisiau?
• Cyfrannu at ddatblygu sgiliau ac at lwyddiant economaidd Cymru yn y dyfodol?
• Gweithio o fewn sefydliad cenedlaethol modern, arloesol lle gallwch chi wirioneddol wneud gwahaniaeth?
Mae Gyrfa Cymru yn darparu gwasanaeth cyfarwyddyd i bawb. Mae ein tîm Gwasanaethau i Bobl Ifanc yn cefnogi dysgwyr ym maes addysg, tra bod ein tîm Cymru’n Gweithio yn gweithio gyda chwsmeriaid yn y farchnad lafur. Gyrfa Cymru yw’r unig sefydliad cenedlaethol sy'n cynnig gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd diduedd yng Nghymru, ac mae ein cynghorwyr yn angerddol am helpu unigolion i wireddu eu potensial.
Byddwch yn cefnogi pobl ifanc ac oedolion i fentro i’r farchnad lafur neu i ail-ymuno â'r farchnad lafur trwy asesu, rhoi cyfarwyddyd a darparu cymorth wedi'i deilwra. Mae hyn yn cynnwys gweithio gydag unigolion sy'n ddi-waith (tymor byr neu hirdymor), yn economaidd anweithgar, yn profi rhwystrau sy'n gysylltiedig ag iechyd neu anabledd, neu sy'n ceisio newid gyrfa. Ewch i'r farchnad lafur trwy asesu, rhoi cyfarwyddyd a chymorth wedi'i deilwra.
Byddwch hefyd yn cydweithio ag ystod eang o bartneriaid lleol a chenedlaethol fel darparwyr hyfforddiant, y Ganolfan Byd Gwaith, carchardai, timau troseddau ieuenctid, cyflogwyr a sefydliadau eraill i helpu cwsmeriaid i symud ymlaen i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth gynaliadwy.
Mae cynghorwyr yn defnyddio amrywiaeth o offer a dulliau, gan gynnwys cymorth un-i-un, sesiynau cyflogadwyedd grŵp a chyflwyniadau gan ddefnyddio technolegau digidol.
Yn benodol, rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan y rhai sydd â phrofiad mewn:
• Sefydliadau addysg neu hyfforddiant
• Cymorth iechyd, gofal cymdeithasol neu anabledd
• Cefnogi oedolion sy'n dychwelyd i'r farchnad lafur
• Gweithio gyda chymunedau ethnig leiafrifol amrywiol, ceiswyr lloches neu ffoaduriaid
• Gweithio mewn lleoliad carchar.
Swyddi ar gael yn ardaloedd Caerdydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen neu Caerffili a Wrecsam neu Sir y Fflint; Tîm Gwasanaethau i Bobl Ifanc – Angen sgiliau Cymraeg Uwch
Mae'r rolau hyn yn canolbwyntio ar baratoi pobl ifanc ar gyfer cyfnodau pontio allweddol yn eu haddysg a'u gyrfaoedd yn y dyfodol. Byddwch yn gweithio ar draws ysgolion prif ffrwd, ysgolion arbennig, colegau AB a gyda'r rhai sydd wedi'u haddysgu y tu allan i leoliadau prif ffrwd. Fel gyda'n holl rolau cynghorydd, byddwch yn defnyddio ystod o offer i ddarparu cymorth un-i-un, sesiynau grŵp rhyngweithiol a chyflwyniadau digidol.
• Rhaid i gynghorwyr/rhai o dan hyfforddiant fod â thrafnidiaeth addas i gyflawni eu dyletswyddau a mynychu digwyddiadau dysgu a datblygu yng Nghymru ac, o bryd i’w gilydd, y DU.
• Rhaid i ymgeiswyr Cynghorydd Gyrfaoedd feddu ar Ddiploma Lefel 6 FfCCh mewn Cyfarwyddyd Gyrfaoedd a Datblygiad (neu gyfwerth) a bod yn gymwys ar gyfer Cofrestr Ymarferwyr CDI.
• Rhaid i Gynghorwyr Gyrfaoedd dan Hyfforddiant feddu ar radd (neu gyfwerth) a byddant yn cwblhau'r Diploma Lefel 6 fel rhan o'r rôl, gyda rhywfaint o astudio annibynnol yn angenrheidiol.
• Mae angen gwiriad DBS manwl.
Canolradd: Gallwch ddeall prif bwyntiau sgyrsiau ar bynciau cyfarwydd bob dydd a phynciau sy’n ymwneud â gwaith, a chyfathrebu’n hyderus â siaradwyr rhugl. Gallwch ddisgrifio profiadau, uchelgeisiau a chynlluniau, egluro eich barn, deall gwybodaeth ysgrifenedig syml, ac ysgrifennu negeseuon e-bost neu lythyrau clir at amrywiaeth o ddibenion.
Hyfedr: Gallwch ddeall yr hyn yr ydych yn ei glywed neu’n ei ddarllen yn rhugl, cyfathrebu’n rhugl ar bynciau cymleth, ac arwain neu gyfrannu at drafodaethau. Gallwch grynhoi gwybodaeth o wahanol ffynonellau ac addasu eich arddull ar gyfer gwahanol gynilleidfaoedd a lleoliadau. Rydych yn medru gweithio ar lefel broffesiynol, gan gyfathrbu trwy amrywiol ddulliau yn y Gymraeg.
Mae disgrifiadau swydd llawn a ffurflenni cais ar gael yn Swyddi Gwag – Gyrfa Cymru (llyw.cymru).
Bydd gofyn i ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer fynychu Canolfan Asesu: 24, 25 neu 26 Tachwedd 2026 (drwy Microsoft Teams)
Cyfweliadau: Rhwng 30/11/2026 a 09/12/2026 (trwy Microsoft Teams).
Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn ni’n hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell, yn fwy creadigol, yn gryfach, yn hapusach ar y cyfan, ac wrth gwrs - dyma'r peth iawn i'w wneud!
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir ac yn ceisio gwneud ein prosesau recriwtio a'n gweithle yn gefnogol ac yn hygyrch. Mae ein dull yn cael ei lywio gan y model cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod y gall pobl gael eu hanablu gan y ffordd y mae cymdeithas, gweithleoedd, systemau ac agweddau wedi'u cynllunio - nid gan eu hamhariad neu eu gwahaniaeth.
Rhowch wybod i ni os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch chi yn ystod y broses recriwtio neu ar ôl eich penodi. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall eich anghenion, ac mae gwybodaeth recriwtio ar gael mewn fformatau amgen ar gais.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg.
Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.