A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Gwybodaeth Fusnes (Cyllid a Llywodraethu) / Swyddle
Swydd:
Rheolwr Gwybodaeth Fusnes (Cyllid a Llywodraethu)
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
£40,000
Cyfeirnod:
REC01346
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
06-08-2025

Disgrifiad swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Rheoli a chyfarwyddo Dadansoddwyr Gwybodaeth Fusnes Cyllid a Llywodraethu a'r Stiward Data i nodi gofynion busnes a'u trosi'n dasgau dadansoddi data i sicrhau bod data a gwybodaeth ar gael i'r busnes fel sail i benderfyniadau a fydd yn arwain at ganlyniadau busnes llwyddiannus.

 

  • Rheoli'r gwaith o ddatblygu dangosfyrddau a delweddau adrodd drwy oruchwylio'r tîm Gwybodaeth Fusnes (Cyllid a Llywodraethu) ar y cyd â'r busnes ehangach, er mwyn cael barn weithredol glir am y busnes gan ddefnyddio PowerBI neu offer tebyg
  • Fel aelod allweddol o'r tîm Strategaeth a Gweithredu Data, rheoli'r gwaith o weithredu fframwaith, polisïau a safonau llywodraethu data TrC ar draws Cyllid a Llywodraethu er mwyn gallu rheoli data fel ased strategol TrC
  • Goruchwylio'r gwaith o ddatblygu llifoedd gwaith peirianneg data drwy gydweithio â'r tîm Peirianneg Data i gynhyrchu setiau data ar gyfer adroddiadau, ymholiadau ad hoc ac ymchwiliadau
  • Bydd y Rheolwr BI yn gyfrifol am ansawdd data, gan nodi gwallau data, anghysondebau, a phroblemau posibl rhwng systemau neu gyda phrosesau busnes. Drwy reolaeth llinell y Stiward Data (Cyllid a Llywodraethu), bydd yn nodi cyfleoedd i wella systemau a phrosesau er mwyn symleiddio data yn y ffynhonnell a lleihau cymhlethdod mewn gweithgareddau prosesu is i lawr

 

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Gradd mewn Mathemateg, Dadansoddi Data, Gwyddor Data, Cyfrifiadureg neu brofiad proffesiynol cyfatebol tebyg sy'n dangos eich gallu i weithio a meddwl mewn modd dadansoddol
  • Sgiliau cyfathrebu gweledol gyda phrofiad o ddatblygu graffeg, siartiau a dangosfyrddau clir a hawdd eu deall gan ddefnyddio offer gwybodaeth fusnes fel PowerBI, Tableau a phrofiad o SQL, Python, neu DAX
  • Dealltwriaeth o lywodraethu data da a deddfwriaeth berthnasol (GDPR y DU ac ati)
  • Sgiliau cynllunio a threfnu rhagorol, a’r gallu i flaenoriaethu a bod yn hyblyg i ymateb i newidiadau a diweddariadau.

 

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

 

Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**