Mae hwn yn gontract cyfnod penodol am 2 flynedd ac mae yna 3 swydd ar gael
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Pwy ydyn ni
Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.
Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.
Cyfrifoldebau’r swydd
Nod Rhaglen UNO yw creu un platfform integredig ar gyfer holl wasanaethau cyhoeddus Trafnidiaeth Cymru.
Mae hon yn rhaglen drawsnewid ddigidol i gefnogi cwsmeriaid a chydweithwyr i gynllunio a thalu am eu teithiau, i gynnwys rhyngwyneb digidol hawdd ei ddefnyddio (gwefan ac ap newydd) a bydd yn galluogi cwsmeriaid i gynllunio teithiau, prynu tocynnau, a chael mynediad at wybodaeth amser ‘real’ ar gyfer mathau lluosog o drafnidiaeth. Bydd hyn yn gynhwysol ac yn cynnwys cymorth i'r rhai na allant ddefnyddio rhyngwynebau digidol.
Drwy symleiddio sawl ffordd yr ydym yn teithio drwy ddarparu profiad cwsmer di-dor, rhagwelir y bydd UNO yn cynyddu teithiau cynaliadwy, yn cynhyrchu refeniw, ac yn sicrhau manteision cymdeithasol ac economaidd sylweddol i Gymru.
Bydd y Dadansoddwr Busnes yn cefnogi tîm Trawsnewid Digidol UNO a ffrydiau gwaith eraill yn Rhaglen UNO i gyflawni gwaith ar draws y 4 ffrwd waith, i wella effeithiolrwydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) fel sefydliad, ac i wella profiad defnyddwyr gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn unol â pholisi a strategaeth trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Sgiliau Iaith Gymraeg
Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol
Y camau nesaf
A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.
Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.
* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.
**Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**