A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Cydymffurfiaeth Cynorthwyol / Swyddle
Swydd:
Rheolwr Cydymffurfiaeth Cynorthwyol
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
£28,400
Cyfeirnod:
REC01329
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
05-08-2025

Disgrifiad swydd

Sylwch: mae hwn yn gontract cyfnod penodol o 2 flynedd

 

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Bydd gan y Rheolwr Cydymffurfiaeth Cynorthwyol rôl allweddol o ran cael sicrwydd ynghylch gweithgareddau cyflenwyr sy’n ymwneud â Rheoli Seilwaith Trafnidiaeth Cymru.  

  • Cefnogi’r Rheolwr Cydymffurfio i oruchwylio a rheoli system reolaeth Rheoli Asedau drwy ddeall gofynion y system, a chysylltu â’r rhanddeiliaid priodol i sicrhau bod TrC yn parhau i fod yn gleient gwybodus drwy gydol gweithgareddau Rheoli Asedau.
  • Cefnogi’r gwaith o adolygu a chydlynu dogfennau allweddol y system reoli drwy helpu i adolygu cynlluniau Rheoli Asedau i sicrhau eu bod yn bodloni polisïau a chanllawiau TrC.
  • Cefnogi Gwelliant parhaus y system lywodraethu drwy weithio gyda’r tîm a bod yn arloesol i sicrhau bod gweithdrefnau’n effeithiol ac yn gywir.
  • Cynnal trywydd archwilio clir o ran penderfyniadau a chamau gweithredu arwyddocaol a wnaed wrth gydymffurfio drwy wneud cofnodion cywir i sicrhau y rhoddir cyfrif am gamau gweithredu technegol.

 

 

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Profiad amlwg mewn rôl cydymffurfiaeth.
  • Profiad amlwg o gadw cofnodion cywir.
  • Profiad o gefnogi systemau rheoli.
  • Llythrennedd cyfrifiadurol da a phrofiad o ddefnyddio amrywiaeth o raglenni Office365, Excel, Word, Visio a SharePoint yn bennaf.

 

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.