A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Masnachol Cynorthwyol( contract cyfnod penodol o 2 flynedd) / Swyddle
Swydd:
Rheolwr Masnachol Cynorthwyol( contract cyfnod penodol o 2 flynedd)
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
£28,400
Cyfeirnod:
REC01350
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
07-08-2025

Disgrifiad swydd

Sylwch: mae hwn yn gontract cyfnod penodol o 2 flynedd

 

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Bydd y Rheolwr Masnachol Cynorthwyol yn gweithio yng Nghyfarwyddiaeth Fasnachol Trafnidiaeth Cymru (TrC) ac yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi amrywiol brosiectau masnachol i gael eu rheoli’n llwyddiannus

 

  • Cynorthwyo’r Rheolwr Masnachol i fonitro achosion o dorri rheolau llywodraethu drwy ddilyn gweithdrefnau caffael a rheoli newid mewnol TrC, ar y cyd â thimau’r Rhaglen a’r Prosiect i sicrhau bod TrC yn gweithredu’n unol â rheoliadau.
  • Monitro agweddau masnachol ar brosiectau penodol drwy gasglu a darparu tystiolaeth sy’n ymwneud â materion a risgiau, cyn gynted â phosibl er mwyn galluogi’r Rheolwr Masnachol i gynnig camau lliniaru.
  • Adolygu ceisiadau contractwyr ac yn prosesu ardystiadau talu drwy ddilyn prosesau Trafnidiaeth Cymru i sicrhau bod gweithgareddau masnachol yn cydymffurfio â rheoliadau.
  • Cefnogi’r Rheolwr Masnachol i roi arweiniad i Reolwyr Prosiect drwy ddod yn wybodus am y cytundebau contract er mwyn gallu gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth wrth gyflawni prosiectau yn unol â’r amserlen, y gyllideb a’r ansawdd a ddisgwylir.

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Gwybodaeth sylfaenol am fathau o gontractau adeiladu
  • Profiad o ysgrifennu adroddiadau, papurau a llythyrau ffurfiol ac o drin a thrafod data rhifol.
  • Profiad amlwg o ymgysylltu ag amryw o randdeiliaid mewnol ac allanol ac o feithrin perthynas waith effeithiol â nhw.
  • Profiad amlwg o gynllunio, blaenoriaethu a chyflawni gwaith i safon uchel ac o fewn yr amser gofynnol

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.