A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cyfrifydd Cynorthwyol / Swyddle
Swydd:
Cyfrifydd Cynorthwyol
Lleoliad:
Caerfyrddin, Gweithio o Gartref
Cyflog:
£25,000 - £30,000 y flwyddyn
Cyfeirnod:
20240422S4C
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
S4C
Dyddiad Cau:
07-05-2024

PWRPAS Y SWYDD

Byddwch yn gyfrifol am fonitro cyllidebau, cadw cyfrifon a pharatoi adroddiadau ariannol ac am holl agweddau cyfrifyddu ar gyfer S4C Masnachol.

Byddwch yn cyfathrebu'n effeithiol ac yn gweithio'n agos gyda'ch cydweithwyr ac eraill i sicrhau ein bod yn cyflawni ein hamcanion corfforaethol a'n rhagoriaeth greadigol wrth sicrhau ein bod yn gweithredu'n effeithiol ac yn unol â'n hymrwymiadau strategol.

Byddwch yn cyfrannu i gyfarfodydd a thrafodaethau mewn perthynas â’ch prif gyfrifoldebau a thu hwnt er lles S4C yn gyffredinol.

 

PRIF DDYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU

 

Byddwch yn gyfrifol am:

Grŵp Masnachol:

  • Cadw holl agweddau cyfrifo grŵp masnachol cwmnïau S4C. Bydd hyn yn cynnwys ledjeri prynu a gwerthu, adolygu dyledwyr a chredydwyr, cymodi banc a pharatoi ffurflenni TAW chwarterol.
  • Cynhyrchu datganiadau dosbarthu a chyfrifo darpariaethau breindaliadau sy'n gysylltiedig â buddsoddiadau masnachol a gwerthiant cynnwys.
  • Adolygu datganiadau misol credydwyr a dyledwyr grŵp S4C masnachol o gwmnïau, trafod unrhyw falensau sydd heb eu talu â deiliaid cyllidebau neu reolwyr costau a chyflwyno'r adolygiad hwn i'r Rheolwr Cyllid i'w gymeradwyo.
  • Cynorthwyo’r Uwch Gyfrifydd mewn prosesau chwarter a diwedd blwyddyn gan gynnwys monitro cynnwys a buddsoddiadau cronfa twf.

 

Cronfa gwasanaeth cyhoeddus:

  • Cynhyrchu adroddiadau cyllideb ar gyfer deiliaid cyllidebau. Cynhyrchir yr adroddiadau hyn gan ddefnyddio data o system gyfrifo S4C SAP Business 1, Idocuments, Vision Q&A ac Excel.
  • Mynychu cyfarfodydd cyllidebau rheolaidd gyda'r Prif Swyddog Cyllid, y Rheolwr Cyllid a deiliaid cyllidebau. Bydd gofyn i chi ddarparu pob adroddiad ar gyfer y cyfarfodydd hyn a chymryd cofnodion a phwyntiau gweithredu'r cyfarfodydd hyn.
  • Cynorthwyo'r Rheolwr Cyllid gyda'r gweithdrefnau diwedd mis a diwedd blwyddyn ar gyfer grŵp S4C yn ôl y galw.
  • Cynllunio a pharatoi adroddiadau a thaenlenni ad hoc er mwyn hwyluso'r gwaith o reoli cyllidebau.
  • Gyfrifol am weinyddu'r system Idocuments, gan hyfforddi defnyddwyr a helpu defnyddwyr gyda'r system.
  • Cyfathrebu a gweithio gyda phob adran yn S4C i sicrhau bod cyllidebau'n cael eu rheoli ar bob lefel. Mae sgiliau cyfathrebu cryf yn hanfodol.
  • Darparu cymorth dros dro o fewn y tîm cyllid ar gyfer cyfnodau salwch a gwyliau.
  • Disgwylir i chi ymgymryd ag unrhyw waith neu gyfrifoldebau rhesymol eraill sy’n codi o bryd i’w gilydd.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill.

 

Byddwch hefyd yn:

  • Ymwybodol o strategaeth S4C, a sicrhau eich bod yn cymryd cyfrifoldeb personol i ddilyn ein holl bolisïau a gweithdrefnau yn ôl y gofyn sy’n cynnwys gweithio o fewn canllawiau Iechyd a diogelwch, gwarchod data, canllawiau ariannol ac yn y blaen;
  • Cyfrannu mewn ffordd bositif tuag at ddiwylliant a chyflawni strategaeth S4C;
  • Cyfrannu at a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
  • Cyd weithio gyda’ch rheolwr llinell a bod yn rhagweithiol wrth reoli a datblygu
  • perfformiad eich hun;
  • Sicrhau eich bod yn gweithio mewn ffordd gadarnhaol, gydweithredol, draws- sefydliadol, sy'n datblygu gwasanaethau gwych i'n gwylwyr ar bob platfform ac yn sicrhau amgylchedd gwaith cadarnhaol, egnïol, a chynhwysfawr sy’n trin pawb gyda pharch.

 

Manyleb Person

 

Nodwedd

Hanfodol

Dymunol

Cymwysterau

Cyfrifydd Siartredig Rhannol Gymwys (neu yn y camau diweddarach arholiadau).

 

Profiad

Gweithio o fewn tîm cyllid

O leiaf 2 mlynedd o brofiad mewn rôl debyg.

Sgiliau, profiad a Gwybodaeth

Gwybodaeth o systemau cyllidebu.

 

Sgiliau cyflwyno gwybodaeth

ariannol yn ysgrifenedig ac ar lafar mewn modd dealladwy i

unigolion sydd heb sgiliau cyfrifeg.

Sgiliau cyfathrebu clir, cynhwysfawr ac amserol.

 

Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig yn hanfodol ar gyfer y rôl. Mae cefnogaeth ar gael i ddarparu cyrsiau gloywi iaith Gymraeg neu i fagu hyder os oes angen.

 

Nodweddion Personol

Dealltwriaeth ac ymrwymiad i gyflawni Strategaeth S4C.

 

Hunanymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r angen i fod yn fodel rôl i eraill.

 

Dangos Gwerthoedd ac Ymddygiadau sy'n cyd-fynd â gwerthoedd S4C.

Parodrwydd i weithio'n hyblyg.

Lefel uchel o uniondeb personol, a fynegir drwy ymddygiad.

 

Manylion eraill

Lleoliad:    Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.  Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn. 

Cyflog:    £25,000 - £30,000 y flwyddyn yn unol â phrofiad, gyda phecyn hyfforddiant ar gael.

Cytundeb:    Parhaol

Oriau gwaith:      35.75 yr wythnos.  Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.  

Cyfnod prawf:    6 mis

Gwyliau:    Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn:    Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

 

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Mawrth 7 Mai 2024 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 

 

Dyddiad Cyfweliadau: Dydd Mawrth 14 Mai 2024.

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth

Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol.  

Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau.  Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod.

 

A PHP Error was encountered

Severity: Core Warning

Message: Module 'redis' already loaded

Filename: Unknown

Line Number: 0

Backtrace: