A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Strategaeth Manwerthu / Swyddle
Swydd:
Rheolwr Strategaeth Manwerthu
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
lan at £43,622
Cyfeirnod:
TfW1041
Sgiliau Cymraeg:
Dymunol
Math o Swydd:
Parhaol ( Cynllun pensiwn gwell, Teithio am ddim ar rheilffyrdd TrC )
Cleient:
Dyddiad Cau:
29-11-2026

Teitl: Rheolwr Strategaeth Manwerthu
Cyflog: lan at £43,622
Lleoliad: Llys Cadwyn Pontypridd
Categori: Y Brif Swyddfa
Math o Gontract: Parhaol
Dyddiad Cau: 29 Tachwedd 2026
Cyfeirnod Swydd Wag: 1041

Y Swydd

  • Bydd y Rheolwr Strategaeth Manwerthu yn cefnogi'r gwaith o weithredu strategaeth sianeli manwerthu a chyflawni Trafnidiaeth Cymru (TrC), ynghyd â'r gweithgareddau cysylltiedig ag optimeiddio costau. Bydd hefyd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu strategaethau i wella'r cynnig i gwsmeriaid a/neu leihau costau manwerthu. Cyfrifoldebau'r swyddCefnogi datblygiad pellach strategaethau TrC ar gyfer darparu tocynnau, optimeiddio sianeli gwerthu a mynd i'r afael â thwyll manwerthu, mewn cydweithrediad â'r Arweinydd Strategaeth Fasnachol, yn ogystal â gwneud defnydd o gynlluniau newid i gyflawni targedau refeniw a chostau, gan wella boddhad cwsmeriaid â'r broses o brynu tocynnau.
     
  • Cyfrannu at wireddu uchelgeisiau aml-ddul TrC drwy gydweithio â'r Arweinydd Strategaeth Fasnachol i ddatblygu strategaethau ar gyfer darparu tocynnau ac optimeiddio sianeli, er mwyn hyrwyddo dull unedig o ymdrin â thocynnau a lleihau twyll ar draws gwahanol ddulliau o drafnidiaeth gyhoeddus.
     
  • Bod yn ymwybodol am weithgarwch manwerthu a thocynnau ar draws rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus yn fwy cyffredinol, gan gynnwys newidiadau i sianeli manwerthu, dulliau cyflawni a lliniaru twyll, trwy fynychu cyfarfodydd ar lefel diwydiant gyda'r Grŵp Cyflawni Rheilffyrdd a'r Tîm Prisiau, Tocynnau a Manwerthu o fewn Great British Railways. Cefnogi'r gwaith o sicrhau bod goblygiadau i weithrediadau TrC yn cael eu deall, bod risgiau'n cael eu lliniaru, a bod cyfleoedd yn cael eu harchwilio.
     
  • Nodi cyfleoedd i foderneiddio systemau a phrosesau presennol drwy gydweithio'n agos gyda'r Arweinydd Strategaeth Fasnachol, y Pennaeth Cyflawni Manwerthu, y Rheolwr Systemau Manwerthu a'r Uwch Reolwr Prosiectau Manwerthu i gynyddu refeniw a/neu leihau costau.
     
  • Datblygu cynlluniau blynyddol ar gyfer darparu tocynnau, optimeiddio sianeli a lleihau twyll trwy adrodd ar gynnydd mentrau a meintioli manteision, er mwyn sicrhau bod yr holl dargedau cysylltiedig ar gyfer lleihau refeniw a chostau yn cael eu cyflawni'n llawn.
     

Am beth rydyn ni'n chwilio

  • Profiad amlwg o weithredu a rheoli prosiectau newid sy'n ymwneud â thocynnau a/neu reoli 
  • twyll sydd wedi dangos gwelliannau mewn prosesau busnes a/neu fanteision ariannol.  
  • Profiad o greu prosesau, adrodd ar ddata yn ymwneud â thocynnau a/neu reoli costau, a 
  • chyflwyno'r data hwnnw i Uwch Reolwyr.
  • Profiad o gydweithio â rhanddeiliaid mewnol ac allanol i ddylanwadu ar newidiadau.
     

Sgiliau Cymraeg

Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.

Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni'n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.

 

Cyfle Cyfartal

Rydyn ni'n newid y ffordd y mae'r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni'n datblygu gweithlu sy'n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a'u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru'n teithio."

 

Pwy ydyn ni 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru'n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw'r dewis cyntaf. Rydyn ni'n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull o'r enw Rhwydwaith T, i'w gwneud hi'n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic.

 

Y camau nesaf

Edrychwch ar y Disgrifiad Swydd yn yr atodiad i gael rhagor o fanylion ac i gael gwybod sut mae gwneud cais. Os ydych chi'n awyddus i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol.

Rydyn ni'n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o'r swydd os byddwch chi'n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar y dyddiad cau uchod. Fodd bynnag, rydyn ni'n cadw'r hawl i wrthod derbyn mwy o geisiadau ar gyfer y swydd wag os bydd digon wedi dod i law. Felly, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.