A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Trefnydd Etholiad Cyngor Gwynedd 2027 / Swyddle
Swydd:
Trefnydd Etholiad Cyngor Gwynedd 2027
Lleoliad:
Gwynedd, Hybrid
Cyflog:
Band 2 (£33,233 – £42,727) pro rata
Cyfeirnod:
GwyneddCampaignOrganiserTrefnyddYmgyrchGwynedd
Sgiliau Cymraeg:
Hanfodol
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol ( 30 Awr yr wythnos: Pro rata )
Cleient:
Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd
Dyddiad Cau:
27-10-2026

Teitl Swydd: Trefnydd Ymgyrchu :Etholiad Cyngor Gwynedd 2027

 

Cyflogwr: Plaid Cymru

Lleoliad: Gwynedd

Gweithredir patrwm hybrid o weithio o bell ac yn y swyddfa

 

Cyflog: Band 2 ( £33,233 - £42,727 ) pro-rata

Fel arfer, gwneir apwyntiadau ar ben isaf y raddfa.

Math y Contract: 6 mis tymor penodol

Oriau gwaith: 30 awr (pedwar diwrnod) yr wythnos, gyda'r angen i weithio gyda'r nos ac ar benwythnosau o bryd i'w gilydd. Mae Plaid Cymru yn gweithredu system oriau gwaith hyblyg. Mae'r swydd yn cynnig 28 diwrnod o wyliau'r flwyddyn gyda diwrnodau breintiedig ychwanegol. (pro-rata)

 

 

Pwrpas y rôl

Mae Etholaeth Dwyfor Meirionnydd eisiau recriwtio unigolyn brwdfrydig a threfnus i helpu i drefnu gwaith ymgyrchu'r blaid ar gyfer etholiadau 2027.Byddwch yn gweithio'n agos gyda gwirfoddolwyr, cynghorwyr, a sefydliadau lleol i sicrhau llwyddiant ymgyrchoedd a chynyddu presenoldeb digidol.

 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu arwain, cymell a threfnu ystod eang o

wirfoddolwyr lleol; cydweithio â grwpiau a sefydliadau lleol; a bydd yn gallu cyfathrebu yn effeithiol ac yn gryno, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Mae angen gwybodaeth am dechnegau ymgyrchu modern yn ogystal â dealltwriaeth o Blaid Cymru a'i pholisïau.

 
   
 

 

 

Teitl Swydd: Trefnydd Ymgyrchu Etholiad Cyngor Gwynedd 2027

 

 

Prif Gyfrifoldebau:

 

Trefnu Ymgyrchoedd a Chefnogaeth i ymgeiswyr:

  • Cynllunio, cydlynu, ac arwain ymgyrchoedd adnabod pleidleiswyr, gan gynnwys stondinau stryd, canfasio a thaflennu drws-i-ddrws, a chyrraedd cymunedau.
  • Gweithredu a monitro ymgyrchoedd lleol wedi'u targedu i gynyddu ymgysylltiad ac ymwybyddiaeth o bolisïau ac ymgeiswyr Plaid Cymru.
  • Trefnu ymgyrchoedd cofrestru pleidleiswyr a hyrwyddo pleidleisio trwy’r post i sicrhau’r cyfranogiad mwyaf.
  • Cefnogi a chynorthwyo gyda deunyddiau ymgyrchu, cyrraedd y cyhoedd, a threfnu digwyddiadau.
  • Cefnogi a goruchwylio gweithgareddau codi arian lleol i sicrhau bod adnoddau digonol ar gyfer ymgyrchu.

 

Cyfathrebu Digidol a Chyfryngau Cymdeithasol:

 

  • Datblygu a rheoli cynllun cyfathrebu digidol ar gyfer yr ymgyrch cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys creu cynnwys ar gyfer llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a thudalennau newyddion.
  • Creu cynnwys deniadol a chanolbwyntio ar y gymuned a sicrhau diweddariadau rheolaidd ar lwyfannau digidol mewn cydweithrediad a Swyddog Cyfathrebu Grŵp Cynghorwyr Gwynedd

 

 

Cefnogaeth Etholiadol:

  • Cefnogi canghennau gyda’r broses o adnabod a recriwtio ymgeisyddion ynghyd a chefnogi canghennau gyda’r broses ddewis mewn cydweithrediad a’r Swyddog Dynodedig
  • Cydlynu a chefnogi’r broses fetio a chymeradwyo statws ymgeisyddion mewn cydweithrediad a’r Pwyllgor Sirol a’r Swyddog Dynodedig
  • Cefnogi gyda paratoi ar gyfer yr etholiad, gan gynnwys cefnogi ymgeiswyr, adnabod a datblygu strategaeth ar gyfer yr etholiad
  • Cydlynu gwirfoddolwyr a gweithgareddau i gefnogi’r ymgyrch.

Ymgysylltu â Gwirfoddolwyr a Chymuned:

  • Recriwtio, hyfforddi a rheoli gwirfoddolwyr ar gyfer gweithgareddau ymgyrchu.
  • Gweithio gyda aelodau etholedig, sefydliadau lleol ac arweinwyr cymunedol i ehangu cyrhaeddiad ymgyrchoedd.
  • Sicrhau cyfathrebu rheolaidd ac effeithiol gyda aelodau a chefnogwyr.

Sgiliau allweddol :

  • Arweinyddiaeth: Gallu arwain ymgyrchoedd, gweithio’n annibynnol, a chymell gwirfoddolwyr.
  • Sgiliau Cyfathrebu: Sgiliau cyfathrebu dwyieithog cryf yn ysgrifenedig ac ar lafar; gallu creu cynnwys clir a deniadol ar gyfer platfformau gwahanol.
  • Llythrennedd Ddigidol: Cyfarwydd gyda chyfryngau cymdeithasol a meddalwedd rheoli ymgyrchoedd (e.e., Instagram, Canva, NationBuilder )
  • E-canvasser - Cadw trefn ar y system yn lleol . Arwain ar weithgaredd, rhedeg y system, hyfforddi ar brydiau a monitro'r feddalwedd.
  • Sgiliau Trefnu: Cryfder wrth reoli nifer o dasgau, cynllunio digwyddiadau, a chwrdd â therfynau amser.
  • Gwaith Tîm a Chydweithio: Gallu gweithio’n effeithiol gyda gwirfoddolwyr, cynghorwyr, a grwpiau lleol mewn amgylchedd wleidyddol cyflym.
  • Datrys Problemau a Addasu: Gallu ymateb i heriau yn gyflym ac yn effeithiol wrth ganolbwyntio ar amcanion ymgyrchu.

 

Profiad:

 

Angenrheidiol:

  • Profiad o reoli neu gefnogi ymgyrchoedd gwleidyddol neu rolau tebyg.
  • Gallu profi gweithio dan bwysau a rheoli amser yn effeithiol.
  • Gallu cyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg
  • Ymrwymiad i werthoedd a pholisïau Plaid Cymru.

 

 

Dymunol:

  • Trwydded yrru llawn.

 

Dyddiad cau: Hydref 27,2026

 

Ceisiadau: Anfonwch ffurflen gais wedi ei chwblhau at dwyfor.meirionnydd@plaid.cymru

Lawrlwytho