Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Sylwer: ar gyfer siaradwyr Cymraeg, mae’r prawf cenedlaethol dechreuol yn cael ei gynnal yn Saesneg. Gellir cynnal prosesau mewnol Heddlu Gwent, gan gynnwys y ganolfan asesu a’r cyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg. I helpu ymgeiswyr sy’n gwneud cais yn Gymraeg, awgrymwn eich bod yn newid yr iaith i’r Gymraeg ar y “Jobs Posting Board”
Mae Cysylltwyr Ystafell Gyswllt a Rheoli'r Llu yn derbyn llawer o hyfforddiant ac maen nhw'n fedrus iawn. Maen nhw'n ymdrin â'r holl alwadau brys a dderbynnir trwy 999 a'r holl alwadau nad ydynt yn rhai brys a dderbynnir trwy 101 a'r switsfwrdd. Yn ogystal â chofnodi digwyddiadau a rhoi cyngor, mae'r cysylltwyr hefyd yn gyfrifol am anfon a rheoli adnoddau’r heddlu, gan sicrhau bod y swyddogion iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr brwdfrydig ac uchelgeisiol gydag ymagwedd gadarnhaol ac sy'n gallu trin pobl yn dda ar y ffôn. Hoffem annog pobl sy’n ystyried ymgeisio i wneud cais ar gyfer y Cynllun Cysgodi er mwyn cael rhagflas o’r rôl (Dolen yn adran Ymunwch â Ni gwefan Heddlu Gwent)
Rydym yn recriwtio siaradwyr Cymraeg i gefnogi’r sefydliad wrth iddo ateb y galw gan y cyhoedd a chydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.
Mae llawer o wybodaeth ynglŷn â’r swyddi a’r broses recriwtio yn y dogfennau ynghlwm. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rôl yma a gallwch weld ein fideo gwybodaeth Tu Ôl i’r Bathodyn yma
Sylwer: mae’n rhaid aros yn y swydd hon am ddwy flynedd cyn y gellir gwneud cais am swyddi eraill).
Sylwer: Mae’n rhaid i chi aros yn y swydd yma am ddwy flynedd cyn y gallwch ymgeisio am swyddi eraill.
DYDDIADAU I’W NODI
Canolfan Asesu – 13/14/15 Mai
Cyfweliadau - w/d 3 Mehefin
Dyddiad dechrau arfaethedig - Medi 2024
SYLWER:
Ar gyfer y broses ymgeisio yma, yn unol â’r disgrifiad swydd, nid oes gofyn i chi ddarparu unrhyw dystiolaeth ar sail cymhwysedd. Gadewch y rhan yma’n wag a chyflwynwch eich cais; wedyn bydd dolen yn cael ei hanfon atoch chi er mwyn i chi gwblhau prawf ar-lein.
SYLWER:
Ar gyfer y broses ymgeisio hon, yn unol â’r disgrifiad swydd, nid oes gofyn i chi ddarparu unrhyw dystiolaeth seiliedig ar gymhwysedd. Gadewch y rhan hon yn wag a chyflwynwch eich cais; anfonir dolen atoch chi wedyn ar gyfer prawf i’w gwblhau ar-lein.
Y buddion rydym yn eu cynnig
Yma yn Heddlu Gwent, rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr, ac rydym yn rhoi digonedd o gefnogaeth a hyfforddiant i sicrhau eich bod yn rhagori yn eich swydd. Rydym hefyd yn cynnig buddion fel y rhai canlynol:
Severity: Core Warning
Message: Module 'redis' already loaded
Filename: Unknown
Line Number: 0
Backtrace: