Mae Swyddle’n wefan poblogaidd ymysg ymgeiswyr swyddi sy’n siarad Cymraeg.
Mae ein pecyn hysbysebu swydd yn cynnwys:
• Hysbyseb amlwg ar y wefan Swyddle,
• Rhannu’r swydd trwy gylchlythyr Swyddle.
• Cyngor arbenigol wrth ysgrifennu’r hysbyseb gan gynnwys darparu cyfieithiad Cymraeg.
• Marchnata’r adran swyddi ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol.
• Pan yn berthnasol, rhannu’r swydd â grwpiau diwydiant perthnasol, fforymau arlein, cymdeithasau ayyb.
• Adroddiad llawn am boblogrwydd yr hysbyseb gan gynnwys faint o bobl sydd wedi ymweld â’r dudalen a’r nifer sydd wedi ymgysylltu â’r swydd.
Mae Swyddle’n ymwybodol bod pob cais yn unigryw i’r swydd. Dyna pam ein bod ni’n cynnig gwahanol opsiynau i’n cleientiaid, gan gynnwys:
• Casglu CV gan bob ymgeisydd.
• Casglu gwybodaeth gyswllt ymgeiswyr.
• Ailgyfeirio ymgeiswyr i wefan eich cwmni neu sefydliad.
• Creu ffurflen gais digidol gyda chwestiynau o’ch dewis.
• Llwytho ffeiliau ychwanegol i ymgeiswyr, fel ffurflen gais neu wybodaeth ychwanegol, gyda’r hysbyseb.
Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar post@swyddle.cymru
_________