Sefydlwyd Menter Iaith Abertawe yn 2001, gyda’r nod o hyrwyddo ac ehangu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn Ninas a Sir Abertawe.  Ein datganiad cenhadaeth yw:

“HWYLUSO CYFLEOEDD I BOBL SIR ABERTAWE FYW TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG AC I FWYNHAU DIWYLLIANT CYMRAEG YN EU BYWYDAU BOB DYDD”.