Sefydlwyd y cwmni pan ffrwydrodd y Spice Girls ar y siartiau - ac rydyn ni’n ystyried ein hunain yn grŵp llwyddiannus hefyd.

Ers 1996, rydyn ni wedi bod yn creu a darparu atebion cyfathrebu creadigol ar gyfer ein cleientiaid. Mae llawer wedi newid ers hynny – tirwedd y cyfryngau, y cyfryngau cymdeithasol a sut mae cynulleidfaoedd yn derbyn newyddion a gwybodaeth.

Lwcus felly ein bod ni wrth ein bodd â newid.

Rydyn ni’n buddsoddi yn ein tîm yn barhaus i ehangu ein gwasanaethau er mwyn darparu'r gwasanaeth integredig diweddaraf i’n cleientiaid, a sicrhau eu bod bob amser yn disgleirio.

​Yn hytrach na gweithredu’r asiantaeth ar draws nifer o adrannau, mae’n bwysig i ni bod ymgyrchoedd ein cleientiaid yn cael eu cyflwyno’n ddi-dor ar draws pob llwyfan. Dyna pam bod ein tîm unigryw a dawnus iawn wedi’u hyfforddi i adrodd eich stori chi drwy bob cyfrwng, dan arweinyddiaeth arbenigwyr.

I nifer o gleientiaid hirsefydlog Equinox, mae ein tîm yn cynnig rhagoriaeth, arloesedd a phâr diogel o ddwylo. Rydyn ni’n dîm clos sy’n anelu at ddod yn estyniad o’ch tîm chi.
 

Tîm arobryn o feddylwyr strategol, cynhyrchwyr creadigol a thrinwyr cyfrifon manwl — mae ein profiad yn rhychwantu ystod eang o sectorau ar draws cleientiaid B2C a B2B.

Rydyn ni’n recriwtio pobl dalentog sy’n adlewyrchu gwerthoedd ein hasiantaeth o greu ymgyrchoedd clyfar a chynaliadwy i wneud i’n cleientiaid ddisgleirio — a buddsoddi yn eu datblygiad i sicrhau eu bod bob amser ar y blaen. 

Mae’r tîm yn cynnwys saith siaradwr Cymraeg rhugl ac mae’r gweddill yn ddysgwyr. Dewch i gwrdd â ni am sgwrs (ddwyieithog): gartref (yn rhithwir!), yn ein swyddfa yn Llanisien, neu yn ein ‘Canolfan Greadigol’ yn Tramshed Tech. Gyda’n gilydd, byddwn yn eich cadw yng ngolwg y cyhoedd.