Mae adroddiad newydd gyhoeddwyd gan British Council Cymru yn dweud y dylai Cymru ddefnyddio apêl ei grym ‘cymell tawel’ yn well, sef ei sectorau diwylliant, addysg a chwaraeon, er mwyn cael mwy o gydnabyddiaeth a dylanwad ar lwyfan byd-eang. Rydym yn cymryd yn ganiataol fod yr iaith Gymraeg yn rhan o’r apêl ‘cymell tawel’ hwn.
Mae’r adroddiad, ‘Baromedr Cymell Tawel Cymru 2018’, yn cymharu Cymru â naw gwlad a rhanbarth ar draws y byd a daeth yn chweched yn y Mynegai, y tu ôl i Québec, yr Alban, Fflandrys, Catalwnia a Hokkaido yn Japan, a daeth ar y blaen i Gorsica, Gogledd Iwerddon, Jeju yn Ne Corea a Phuerto Rico.
Mae’n cyfuno dadansoddiad o ddata sydd eisoes yn bodoli ar lywodraeth pob ardal, eu defnydd o dechnoleg ddigidol, eu diwylliant, eu menter, eu hymgysylltiad a’u haddysg, gyda chanlyniadau arolwg a gomisiynwyd yn ddiweddar o 5000 o bobl mewn deg gwlad yn gofyn am safbwyntiau pobl ar fwyd, cyfeillgarwch tuag at dwristiaid, brandiau moethus, gwerthoedd gwleidyddol, sut le yw i fyw, diwylliant a chwaraeon.
Technoleg Ddigidol yw’r gorau
Yn y dadansoddiad o ddata, ym maes technoleg ddigidol y gwnaeth Cymru orau, gan ddod yn drydydd y tu ôl i’r Alban a Jeju ac am ei sector menter a dyw hyn ddym yn syndod o ystyried y don o dechnoleg digidol a chreadigol sy’n codi ar draws Cymru, yn cynnwys canolfan diwydiannau creadigol yr Egin yng Nghaerfyrddin, yr ecosystem ddigidol meddygol yn Abertawe a Chaerdydd ynghyd â Cardiff Start, Innovation Point a BeTheSpark. Bydd maes technoleg digidol yn gonglfaen allweddol i ddyfodol lewyrchus yr iaith ac roedd y dechnoleg Iaith Gymraeg a fu I’w gweld yn nigwyddiad ‘Cymru Arloesol: Technoleg Cymraeg 2050’ yn Tramshed Tech yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf yn dynodi’r hyn sydd i ddod.
Ap Cwtsh a Duolingo
Er enghraifft, mae’r ap Cymraeg “Ap Cwtsh” ar gyfer myfyrdod ac ymwybyddiaeth ofalgar yn un o nifer o brosiectau arloesol, tymor byr a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n ceisio cynyddu defnydd pobl o’r iaith o ddydd i ddydd a hybu technoleg sy’n cefnogi’r defnydd a wneir o’r Gymraeg a chyda mwy o bobl yn derbyn gwersi Cymraeg ar Duolingo nad sy’n siarad yr iaith, mae’r cyfle a gyflwynir gan blatfformiau digidol er mwyn diogelu’r iaith ar lwyfan ryngwladol yn hollol amlwg.