Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un heriol iawn i’r farchnad swyddi gyda covid-19 yn effeithio’r economi ac yn achosi diweithdra ac ansicrwydd mawr.
Ar yr olwg gyntaf, mae dod o hyd i swydd newydd yn 2022 hefyd yn edrych yn amhosibl ar hyn o bryd ac mae’r swyddi sydd yn cael yn hysbysebu yn mynd i ddenu llawer mwy o ymgeiswyr na’r arfer.
Ond paid digalonni’n llwyr achos mae ‘na ambell beth alli di ei wneud er mwyn helpu dy siawns o ddod o hyd i swydd eleni. Dyma ambell awgrym gennym ni yma yn Swyddle all helpu….
Mae pawb bron wedi dod i arfer â galwadau fideo dros y flwyddyn ddiwethaf a nawr yw’r amser i ddod i adnabod Zoom a MicrosoftTeams yn well oherwydd mae technoleg fideo yma i aros tu hwnt i covid-19. Mae cyflogwyr yn hoffi cyfweliadau fideo am eu bod nhw’n cymryd llai o amser i drefnu ac maen nhw o fantais i lawer o ymgeiswyr oherwydd nad ydyn nhw’n gorfod teithio’n bell ar gyfer cyfweliad.
Mae cyfweliadau dros fideo hefyd yn cyflwyno heriau newydd a gwahanol i ymgeiswyr. Fel cyfweliadau wyneb yn wyneb, mae’n rhaid ymarfer er mwyn rhoi argraff dda i dy ddarpar gyflogwr, fel mae’r erthygl ddiweddar yma yn The Guardian yn dangos. Ond y mwyaf cyfforddus wyt ti gyda’r dechnoleg, a gyda galwadau fideo, y gorau yw’r argraff alli di roi pan gei di gyfweliad.
Yn y cyfnod hwn, rydym ni i gyd yn treulio llawer mwy o amser adre, ond faint ohonom ni sy’n defnyddio’r amser yma i fagu a gwella rhwydweithiau proffesiynol? Mae proffil LinkedIn da yn gallu bod yn amhrisiadwy wrth chwilio am swydd newydd yn 2021. Mae’n ffordd dda o gysylltu â phobl ddiddorol a darpar gyflogwyr yn y meysydd sydd o ddiddordeb i ti.
Mae llawer o gyflogwyr hefyd yn defnyddio LinkedIn i chwilio am ymgeiswyr posib yn ogystal ag edrych ar proffiliau ymgeiswyr. Fe wnaeth arolwg gan reed.co.uk ddarganfod fod 43% o recriwtwyr yn edrych ar broffiliau digidol yn aml, felly mae’n syniad da cymryd mantais lawn o hyn a chreu proffil da er mwyn cael dy droed yn y drws.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti ddiweddaru dy CV? Gall hyn olygu ychwanegu swyddi diweddara, sgiliau trosglwyddadwy neu broffil personol…. neu efallai bod angen ailwampio’r cyfan?
Mae angen i dy CV di wneud argraff a dangos pwy wyt ti’n syth. Mae’n rhaid iddo fod yn glir, yn hawdd i’w ddarllen ac yn gweddu i’r swydd rwyt ti’n mynd amdani. Felly os nad yw dy CV di’n dangos dy fod di’n berffaith ar gyfer y swydd, beth yw’r pwynt ymgeisio?
Dim ots faint ti’n meddwl ti’n gwybod yn barod, mae ‘na wastad mwy i’w ddysgu. Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi gweld twf mawr mewn pobl yn cymryd cyrsiau ar-lein a nawr yw’r amser perffaith i ychwanegu at dy bortffolio sgiliau.
Byddai dysgu defnyddio meddalwedd newydd neu gyflawni cwrs rheoli yn dangos i ddarpar gyflogwyr dy fod di wastad yn barod i ddysgu mwy ac yn defnyddio dy amser mewn ffordd ragweithiol. Ac mae pob sgil newydd yn edrych yn gret ar dy CV.
Gadawa i Swyddle dy helpu i ddod o hyd i swydd newydd yn 2021. Wrth greu cyfrif newydd gyda ni, byddwn yn anfon cylchlythyr swyddi gwag i ti’n wythnosol yn seiliedig ar dy ddewisiadau o feini prawf.
Ac wrth greu proffil personol a llwytho dy CV i’r wefan, gallwn ddefnyddio ein rhwydwaith helaeth o gleientiaid i roi dy gais ar lwybr carlam gan ddefnyddio dy fanylion.
Mae dod o hyd i swydd newydd yn ddigon anodd ar y gorau ond mewn pandemig byd eang a marchnad heriol, fe all Swyddle dy helpu di i ddod o hyd i’r swydd berffaith i ti.