Swyddog Cymorth y Gymraeg (Gofal Plant)
Graddfa gyflog 5: £23,436 - £25,731 y flwyddyn (pro rata)
Rhan amser (32 awr y wythnos), cytundeb tymor penodol hyd at Ragfyr 2021
Rhuglder yn y Gymraeg yn hanfodol (ar bapur ac ar lafar)
Diben y Swydd: Gweithio fel rhan o’r tîm Gofal Plant i hyrwyddo, hwyluso a chynyddu
defnydd pob dydd o’r Gymraeg yn yr ystafell ddosbarth. Cefnogi ac annog dysgwyr gyda phob agwedd o’r Gymraeg mewn ysgolion a lleoliadau Blynyddoedd Cynnar eraill pan fyddant ar leoliad gwaith.
Yn y rôl newydd cyffrous hon byddwch yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr Cymraeg ar gyrsiau gofal plant i ddysgu, defnyddio a gwella eu sgiliau Cymraeg trwy hwyluso rhaglenni answyddogol o weithgareddau ac yn eu helpu nhw i gwblhau asesiadau dwyieithog/Cymraeg yn llwyddiannus. Byddwch yn cyfathrebu ag ymarferwyr lleol a chenedlaethol i sicrhau perthnasedd galwedigaethol ac yn gweithio gyda’r tîm ‘Cyfleoedd’ i ddatblygu cyfleoedd cyfrwng Cymraeg am leoliadau gwaith, hyfforddiant a chyflogaeth gydag Awdurdodau Addysg Lleol, Mudiad Meithrin, ysgolion, meithrinfeydd, a lleoliadau Blynyddoedd Cynnar.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn rhugl yn y Gymraeg (ar lafar ac ar bapur), a fyddai’n fuddiol i gael profiad neu wybodaeth o ddefnyddio’r Gymraeg wrth weithio mewn lleoliad Blynyddoedd Cynnar/Gofal Plant, yn ysgogi dysgwyr o bob oedran a chefndir.
Nodwch: Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal o bell ar ffurf fideo-gynadledda felly bydd angen mynediad at gyfrifiadur/dyfais gyda gwe-gamera.