Mae’r swydd yn hanfodol o ran sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn diwallu ei ofynion cyfreithiol statudol o ran Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Bydd deiliad y swydd yn darparu arweiniad strategol, arweinyddiaeth a chyngor arbenigol i holl gyfarwyddiaethau ac adrannau’r Bwrdd Iechyd er mwyn hwyluso a chryfhau’r ddarpariaeth o wasanaethau gofal iechyd dwyieithog i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth.
Bydd deiliad y swydd yn aelod o Grŵp Strategol y Gymraeg, sy’n cefnogi’r fframwaith strategol ar gyfer cyflwyno Safonau’r Gymraeg ac yn darparu arbenigedd o ran sicrhau bod y gweithlu’n gallu ymateb i heriau’r Strategaeth Dyfodol Clinigol a mentrau effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd parhaus.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n agos gyda’u cydweithwyr yn y gweithlu a’r Gyfarwyddiaeth Gofal Sylfaenol a Chymunedol, gan gynghori a chefnogi datblygiadau i’r gweithlu ac i wasanaethau, yn arbennig byddant yn chwarae rhan allweddol o ran nodi’r swyddi rheiny y mae’r “Gymraeg yn Hanfodol” iddynt, ac sydd, o ganlyniad yn cynyddu’r buddion o ran gofal i gleifion.
Bydd deiliad y swydd yn adolygu, dadansoddi ac yn cyfrannu at adroddiadau cynnydd i’r Bwrdd Gweithredol, i Gomisiynydd y Gymraeg ac i Uned y Gymraeg Llywodraeth Cymru.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n annibynnol ac ar eu liwt eu hunain a byddant yn adrodd i Bennaeth Uned y Gymraeg.
Cyfleoedd ar gael i weithio rhan amser, gan rannu swydd / secondiad / yn ystod y tymor yn unig.
Lleoliad y swydd: I’w gytuno wrth benodi.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Dyddiad cau: 31/01/2021
Non Ellis - Rheolwr yr Uned Iaith Gymraeg
07894739924