Swydd:
Golygydd Cynnwys y We
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
£24,666 - £33,063
Cyfeirnod:
HKXAP2209/SG-HL-CC
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales

Un o gyfrifoldebau Cyngor Celfyddydau Cymru yw darparu gwybodaeth gywir a hygyrch am ei bolisïau, ei weithgareddau a'i wasanaethau. Y prif gyfrwng i gyfathrebu â chyhoedd amrywiol yw gwefan y Cyngor. 

Rydym yn chwilio am Olygydd Cynnwys y We i gynnal trosolwg golygyddol o gynnwys a safon ei wefannau gan ddarparu ffordd gadarnhaol a chyson o fynd ati o ran cyfathrebu mewnol ac allanol ar ein gwefannau rhyngrwyd a mewnrwyd. Amddiffynna'r Golygydd enw da a brand y Cyngor ar lwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol.

Bydd gan ddeilydd y swydd radd berthnasol a/neu brofiad proffesiynol eang gyda hanes o lwyddo o ran rheoli gwefannau/cynnwys mewnrwydi a sianeli'r cyfryngau cymdeithasol.  Mae gwybodaeth o faterion cyfle cyfartal, yn benodol o ymarfer da wrth ddarparu safonau hygyrchedd gwefannol, a gwybodaeth o'r Ddeddf Diogelu Data yn hanfodol.

Gweithiwn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ac mae rhuglder yn y Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae ein buddion yn cynnwys oriau/patrwm gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn.