A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Dadansoddwr Profion / Swyddle
Swydd:
Dadansoddwr Profion
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
£41,200
Cyfeirnod:
REC01467
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
14-12-2025
Disgrifiad o? swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Bod yn gyfrifol am bob agwedd ar brofi ar ddatblygiadau system ddigidol yn unol â’r cynlluniau profi sy’n cael eu creu ac y cytunir arnynt gan y Rheolwr Profion, gan gynnwys defnyddio timau profi defnyddwyr, a chofnodi canlyniadau’r holl brofion.

  • Cefnogi’r Rheolwr Profion i ysgrifennu a chytuno ar gynlluniau a methodolegau profi yn ôl yr angen yn ystod cylch oes y prosiect, yn cynnwys ysgrifennu achosion profi drafft gan ddefnyddio methodolegau profi sydd wedi’u diffinio ymlaen llaw, a sicrhau bod modd olrhain rhwng gweithredu’r prawf a’r gofynion / meini prawf derbyn.
  • Asesu a oes modd awtomeiddio profion drwy nodi profion ailadroddus a rhai llafurddwys i ganfod pa opsiynau fyddai’n fwy cost-effeithiol i’w cynnal drwy sgript awtomataidd.
  • Adrodd ar gynnydd profion, risgiau a materion yn brydlon i’r rheolwr profion a thîm y prosiect drwy ddefnyddio dulliau y cytunwyd arnynt yn y gwaith o gynllunio profion i sicrhau tryloywder ac amlygu rhwystrau posibl yn y prosiect.
  • Ysgrifennu a gweithredu achosion prawf â llaw, rhai awtomataidd a rhai answyddogaethol, gan ddefnyddio DevOps i sicrhau archwiliadwyedd a bod modd eu holrhain.

 

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  •  Profiad o gynllunio a darparu profion TG/Digidol/Systemau, gan gynnwys profion swyddogaethol a phrofion defnyddwyr.
  • Profiad o gylchoedd oes datblygu meddalwedd, fel Waterfall, Agile.
  • Profiad o offer profi fel DevOps.
  • Safon uchel o gyfathrebu ysgrifenedig a llafar, a'r gallu i gydweithio a meithrin perthynas waith effeithiol gyda phobl ar bob lefel ar draws y sefydliad a thu hwnt.
  • Sgiliau cynllunio a threfnu rhagorol (e.e. cynllunio prosiect a/neu ddelio ag oedi neu rwystrau).

 

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

 

**Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**