A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cynghorydd Recriwtio - 3 mis / Swyddle
Swydd:
Cynghorydd Recriwtio - 3 mis
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
hyd at £39,092
Cyfeirnod:
REC01439
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
06-11-2025

Disgrifiad Swydd

Sylwch: mae hwn yn gontract cyfnod penodol am 3-mis

 

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

 

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Bydd y Cynghorydd Recriwtio’n gyfrifol am y broses recriwtio gweithredol a’r gweithgareddau dethol er mwyn galluogi Trafnidiaeth Cymru i gael y bobl briodol i gyflawni ei amcanion.

· Cyflawni prosesau recriwtio a dethol o’r dechrau i’r diwedd, gan gynnwys denu, llunio rhestr fer a chyfweld ymgeiswyr drwy roi’r cyngor priodol i baneli cyfweld a chynnal cyfweliadau i sicrhau bod gan TrC broses recriwtio deg ac effeithiol.

· Mynd ati’n rhagweithiol i recriwtio ar gyfer swyddi gwag agored, gan gynnwys rolau uwch ac arbenigol, drwy ddod o hyd i ymgeiswyr gan ddefnyddio amrywiol lwyfannau ac atebion creadigol i sicrhau bod TrC yn gallu recriwtio rolau arbenigol a chymryd camau cadarnhaol.

· Llywodraethu’r broses recriwtio drwy weithio’n agos gyda, herio a chynghori Rheolwyr Penodi i greu Disgrifiadau Swydd a darparu dogfennau ychwanegol sy’n darparu llwybr cofnodi effeithiol.

· Hwyluso a chefnogi proses gwerthuso swyddi TrC drwy roi cyngor ac arweiniad i Reolwyr Penodi wrth ysgrifennu disgrifiadau swydd a chynnal amrywiol sesiynau gwerthuso swyddi i sicrhau bod swyddi’n cael eu rhoi ar y lefel gywir a model cyflog a pherfformiad effeithiol.

 

 

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

· Profiad amlwg o gyflawni prosesau recriwtio o’r dechrau i’r diwedd.

· Profiad o fynd ati’n rhagweithiol i ganfod adnoddau ar gyfer rolau arbenigol.

· Profiad o ddefnyddio System Tracio Ymgeiswyr.

· Gallu ysgrifennu disgrifiadau swydd clir a gafaelgar.

· Profiad o wella prosesau recriwtio.

· Profiad o herio’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a’r Rheolwr Penodi ynghylch penderfyniadau recriwtio.

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

 

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

 

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

 

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.