A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cynghorydd Doniau Cynnar / Swyddle
Swydd:
Cynghorydd Doniau Cynnar
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
£29,400
Cyfeirnod:
REC01441
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
10-11-2025

Disgrifiad Swydd

Cynghorydd Doniau Cynnar

 

Cyfle Cyfartal

Mae TrC yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, ac yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell ac i fod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb ei safbwynt ei hun, felly rydyn ni’n creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy wneud hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydyn ni'n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni

Ein cenhadaeth yn TrC yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny’n rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli’r wlad i newid y ffordd y mae’n teithio, fel ein bod i gyd yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n ein hwynebu.

 

Rydyn ni’n weithle agored a chynhwysol, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni eisiau creu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i ddatblygu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i wireddu’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru sef adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Bydd y Cynghorydd Doniau Cynnar yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu a darparu rhaglenni Doniau Cynnar a gweithgareddau recriwtio ar draws TrC. Bydd deiliad y swydd yn canolbwyntio ar greu cyfleoedd ar gyfer doniau newydd, darparu profiad o ansawdd uchel i ymgeiswyr, a chyfrannu at wella ein strategaeth Doniau Cynnar yn barhaus drwy ddarparu cyngor effeithiol, meithrin cysylltiadau a rheoli prosesau.

  • Rheoli'r gwaith o gyflawni'r broses recriwtio o'r dechrau i'r diwedd ar gyfer yr holl raglenni doniau cynnar amlddisgyblaethol a mentrau ehangach TrC drwy ddatblygu a darparu amrywiaeth eang o weithgareddau denu, recriwtio a dethol i sicrhau profiadau teg, cynhwysol ac effeithiol i ymgeiswyr sy'n denu talent amrywiol, ac sy'n darparu profiad recriwtio o ansawdd uchel yn unol â Strategaeth Doniau Cynnar TrC.
  • Darparu profiad cynefino di-dor ar gyfer pob cyflogai doniau cynnar newydd drwy gefnogi a darparu gweithgareddau cynefino fel ‘diwrnodau croesawu’ a digwyddiadau lansio i sicrhau bod cytundebau dysgu gyda phartneriaid cyflenwi ar gyfer prentisiaethau yn cael eu trin yn briodol, yn ogystal â gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer rheolwyr cyflogi, graddedigion, interniaid a phrentisiaid newydd, gan roi arweiniad a chymorth cofleidiol wrth iddynt integreiddio i’r busnes.
  • Cynnal archwiliadau ac adolygiadau cynnydd rheolaidd gyda charfannau Doniau Cynnar, drwy weithio'n agos gyda rheolwyr penodi a phartneriaid cyflenwi i rannu arferion gorau, cynnig cyngor ac arweiniad, a darparu diweddariadau cynnydd ac adroddiadau i'r Rheolwr Doniau Cynnar i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â cherrig milltir a disgwyliadau allweddol ar draws yr holl raglenni, ac i olrhain a chefnogi'r gwaith o ddatblygu doniau cynnar, gan sicrhau cysondeb ac aliniad â nodau'r rhaglen.

 

Am beth rydym ni’n chwilio

  • Profiad amlwg o ddarparu cymorth cynghorol mewn swydd debyg ym maes doniau cynnar, recriwtio neu Adnoddau Dynol.
  • Profiad o gefnogi gweithgareddau neu ddigwyddiadau denu a recriwtio cylch llawn.
  • Profiad o ddefnyddio pecynnau Microsoft Office, fel Word, Outlook, Excel, Outlook a Teams.
  • Dealltwriaeth o brosesau recriwtio a deddfwriaeth cyflogaeth.
  • Gallu rheoli a blaenoriaethu nifer o flaenoriaethau, rhanddeiliaid a phrosiectau sy'n cystadlu â'i gilydd ar yr un pryd.
  • Profiad o weithio gyda rhanddeiliaid neu gwsmeriaid mewnol a/neu allanol mewn rôl gefnogol neu chydlynol.

Sgiliau Cymraeg

Byddai’r gallu i siarad/ysgrifennu yn y Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

 

Mae TrC yn hyrwyddo ac yn cefnogi gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i gynnal, i ddatblygu ac i loywi eu sgiliau Cymraeg. Rydyn ni'n rhoi cefnogaeth lawn i'n staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Cymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd, fel dysgu ar-lein, cyrsiau mewn ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd i gyrsiau cymunedol lleol.

 

Y camau nesaf

Ai'r swydd hon yw'r cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi ragor o wybodaeth? Trowch at y Disgrifiad Swydd sydd wedi'i atodi i gael rhagor o fanylion.

 

Mae TrC yn arweinydd ym maes anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

 

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.