A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Arweinydd y Tîm Profiad Cwsmeriaid (De Cymru) / Swyddle
Swydd:
Arweinydd y Tîm Profiad Cwsmeriaid (De Cymru)
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
£27,500
Cyfeirnod:
REC01442
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
10-11-2025

Disgrifiad Swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Arwain tîm o hyd at 15 o Gynghorwyr Cwsmeriaid i sicrhau bod y cynllun cardiau bws rhatach, prosiect bysiau fflecsi a phrosiectau eraill TrC sy’n delio â chwsmeriaid yn cael cefnogaeth effeithiol yn ôl yr angen drwy ddarparu cymorth gweinyddol a gwasanaeth i gwsmeriaid rheng-flaen i’n canolfan gyswllt.

  • Rheoli tîm o hyd at 15 o Gynghorwyr drwy roi cefnogaeth a chyfarwyddyd a bod yn bwynt uwchgyfeirio ar gyfer ymholiadau sy’n ymwneud â’r prosiectau cardiau bws rhatach, fflecsi a phrosiectau eraill yn ôl yr angen, er mwyn galluogi’r tîm i ddarparu’r gwasanaeth gorau i gwsmeriaid.
  • Ymateb i ymholiadau cwsmeriaid sydd wedi cael eu huwchgyfeirio drwy negeseuon e-bost, galwadau ffôn ac wyneb yn wyneb i sicrhau'r lefelau bodlonrwydd cwsmeriaid uchaf posibl.
  • Asesu a dilysu dogfennau a lluniau o geisiadau cwsmeriaid gan ddefnyddio meini prawf TrC i sicrhau bod y ceisiadau’n cydymffurfio.
  • Canfod a monitro unrhyw faterion posibl sy’n ymwneud â cheisiadau drwy ddeall y broses ymgeisio o’r dechrau i’r diwedd er mwyn sicrhau bod unrhyw faterion yn cael eu gweithredu a’u datrys yn brydlon.

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Profiad blaenorol o arwain tîm mawr sy’n delio a chwsmeriaid.
  • Profiad blaenorol o dechnegau datrys problemau a chysylltiadau cwsmeriaid.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ar bapur.
  • Gallu darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid wyneb yn wyneb.
  • Gallu dilyn cyfarwyddiadau a gweithio ar eich liwt eich hun pan fo angen.

 

 

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.