A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Ardal - Glanhau / Swyddle
Swydd:
Rheolwr Ardal - Glanhau
Lleoliad:
Caer
Cyflog:
hyd at £36,500
Cyfeirnod:
REC01434
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
02-11-2025

Disgrifiad Swydd

Rheolwr Ardal - Glanhau

 

Cyfle Cyfartal

 

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gyflogwr Cyfle Cyfartal. Mae hyn yn golygu y dylai pawb sy’n gymwys gael cyfle cyfartal i gael swydd a dyrchafiad ar sail ei allu, ei gymwysterau a’i addasrwydd ar gyfer y gwaith. Mae hyn yn golygu na ddylai unrhyw ymgeisydd na gweithiwr gael ei drin yn llai ffafriol ar sail: hil; lliw; rhyw; cyfeiriadedd rhywiol; oedran; statws priodasol, anabledd; crefydd; cyfrifoldebau teuluol/domestig a phatrymau gwaith, ee rhan-amser.  Ni ddylid chwaith roi unrhyw unigolyn dan anfantais oherwydd amodau neu ofynion, heb gyfiawnhad dros hynny.

 

 

Rhagarweiniad 

 

Dyma gyfle gwych i ymuno â TrC mewn cyfnod cyffrous o drawsnewid cyffrous fel Rheolwr Ardal Glanhau i fod yn bennaf gyfrifol am y Ddarpariaeth Glanhau gyda phortffolio a maes penodol. Gall y rôl fod yn gysylltiedig â phrosiectau penodol yn genedlaethol ee cerbydau aml-safle.

 

 

Cyfrifoldebau’r swydd

 

Byddwch yn atebol am y ddarpariaeth lanhau mewn rhanbarth dynodedig drwy reoli tîm mawr o bell a chynhyrchu dull gweithredu cyson a gwasanaeth sy’n cwrdd â disgwyliadau ac sy’n anelu at ragori arnynt .

 

Byddwch yn rhoi gwybodaeth reoli drwy gasglu data ar draws cyfrif trenau, archwiliadau a gwybodaeth gyllidebol i sicrhau bod TrC yn gallu gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth lanhau.

 

Byddwch hefyd yn goruchwylio’r gwaith o gydlynu gweithgareddau’r timau a’r Goruchwylwyr Safle drwy gynnal archwiliadau a chadw golwg ar reoli i sicrhau yr ymwelir yn rheolaidd â phob rhan o’r contract a chynhelir lefel uchel o foddhad ymysg cwsmeriaid ar draws pob safle.

 

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

 

Rydyn ni'n chwilio am Reolwr Gweithredol neu Reolwr Tîm profiadol yn y diwydiant cyfleusterau neu lanhau, sy’n gallu defnyddio eu profiad i reoli gwaith mawr mewn sawl ardal yng Ngogledd Cymru.

 

 

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • Cymwysterau neu hyfforddiant ym maes FM / Diwydiant Gwasanaeth / BICSc.
  • Profiad amlwg a llwyddiannus yn y diwydiant Glanhau neu Gyfleusterau ym maes gweithrediadau a swyddogaethau gweithredol.
  • Dealltwriaeth o bolisïau a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch yn y diwydiant glanhau.
  • Profiad o reoli a chymell gweithlu gwasgaredig ac amrywiol.

 

Pwy ydyn ni

 

Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.

 

 

Sgiliau Cymraeg

 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.