Swydd:
Cydlynydd Cyfleustodau
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
£27,500.00
Cyfeirnod:
REC01261
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
12-05-2025

Disgrifiad swydd

Cyfle Cyfartal

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

 

Pwy ydyn ni 

 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

 

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

 

Cyfrifoldebau’r swydd

 

Bydd y Cydlynydd Cyfleustodau yn cefnogi’r tîm ehangach drwy fod yn bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau ynghylch cyfleustodau a darparu gwybodaeth amserol a pherthnasol am gyfleustodau, helpu i brosesu hysbysiadau ynghylch gwaith ffordd a ffeilio ceisiadau i ddargyfeirio yn ôl yr angen er mwyn i’r cwmni gyflawni’r prosiect.

 

  • Cynllunio a rheoli gweithgareddau o ddydd i ddydd drwy gysylltu â’r Rheolwr Cyfleustodau a blaenoriaethu llwyth gwaith er mwyn sicrhau bod prosiectau yn cyrraedd eu cerrig milltir cyflawni o ran amser, cost ac ansawdd.
  • Gwneud cais am wybodaeth am gyfleustodau, a chasglu, dehongli ac adrodd ar yr wybodaeth er mwyn sicrhau bod prosiectau'n ymwybodol o gyfleustodau ar y safle. Gwneir hyn drwy ddefnyddio e-bost, systemau gwe a Microsoft Office.
  • Uwchlwytho hysbysiadau amserol ynghylch gwaith ffordd gan ddefnyddio systemau EToN (Trosglwyddo Hysbysiadau yn Electronig) i roi gwybod i awdurdodau priffyrdd a chyfleustodau eraill bod Trafnidiaeth Cymru wedi dechrau gwaith stryd.
  • Cyflwyno ceisiadau ar gyfer amcangyfrifon o ran dargyfeirio cyfleustodau er mwyn cefnogi’r gwaith o ganfod costau prosiectau. Gwneir hyn drwy ddefnyddio e-bost a systemau’r we.

 

 

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Ymwybyddiaeth o’r diwydiannau cyfleustodau yng Nghymru a rolau a chyfrifoldebau gweithredwyr a pherchnogion cyffredin.
  • Trefnus iawn, yn rhagweithiol ac yn rhoi sylw trylwyr i fanylion.
  • Sgiliau TG ardderchog gyda phrofiad o ddefnyddio Microsoft Office a dealltwriaeth o systemau corfforaethol megis BIM ac ERP (Cynllunio Adnoddau Menter).
  • Yn gyfarwydd â chynlluniau cyfleustodau a sut i’w dehongli.

 

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

 

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

Y camau nesaf

 

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

 

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

 

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

 

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

 

Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**