Swydd:
Ystadegydd
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
£43,000
Cyfeirnod:
REC01221
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
24-03-2025

Disgrifiad swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Darparu arbenigedd ystadegol ar gyfer datblygu a chyhoeddi data sy’n ymwneud ag Arolwg Teithio Cenedlaethol newydd Cymru, monitro’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya a chynnal a diweddaru Fframwaith Monitro Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, y mae pob un o’r rhain yn ymrwymiadau sydd wedi’u nodi yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.

  • Paratoi ystadegau blynyddol Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru, tablau data, prif adroddiadau a gwybodaeth ategol berthnasol, gan ddefnyddio meddalwedd dadansoddi ystadegol a methodolegau priodol, er mwyn gallu cyhoeddi Ystadegau Swyddogol yn unol ag amserlenni y cytunwyd arnynt.
  • Bod yn gyfrifol am ddadansoddi pynciau penodol o ddata Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru, gan ddefnyddio technegau ystadegol priodol, i roi gwybodaeth i’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau polisi.
  • Adolygu a mireinio methodolegau a chwestiynau yn Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru, gan gysylltu â rhanddeiliaid, ystadegwyr eraill TrC a’n partner cyflawni, i sicrhau bod cwestiynau a data’n cael eu defnyddio’n briodol a bod gwelliannau posibl yn cyflawni yn erbyn anghenion rhanddeiliaid a busnesau.
  • Cynnal adolygiadau blynyddol o gyhoeddiadau a phrosesau adrodd Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru, drwy weithio’n agos gyda’r Prif Ystadegydd a chasglu adborth gan randdeiliaid allweddol, er mwyn gallu diweddaru a gwella allbynnau’n barhaus i ddiwallu anghenion defnyddwyr.

 

 

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Cymhwyster lefel gradd mewn disgyblaeth rifedd berthnasol, fel ystadegau, ymchwil gymdeithasol neu seicoleg.
  • Profiad amlwg o ddefnyddio technegau mathemategol ac ystadegol wrth weithio gyda setiau data mawr a’u cwestiynu.
  • Profiad o baratoi tablau data cymhleth i’w cyhoeddi.
  • Profiad o ddefnyddio gwybodaeth arbenigol am feintiau samplau, fframweithiau samplu a lefelau hyder mewn arolygon ar raddfa fawr.
  • Profiad o gwblhau dadansoddiadau gan ddefnyddio R, Python neu debyg.

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Mae’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

 

Fel rhan o’r broses ddethol, byddwn yn eich asesu yn erbyn tri chymhwysedd technegol Grŵp Ystadegwyr y Llywodraeth (GSG):

  • Cael data a deall anghenion cwsmeriaid
  • Dadansoddi Data
  • Cyflwyno a dosbarthu data’n effeithiol

 

Os caiff eich cais ei ddewis ar gyfer cam nesaf y broses recriwtio, byddwch yn cael eich gwahodd drwy e-bost i gwblhau’r prawf aml-ddewis GSS ar-lein. Mae hwn yn brawf wedi’i amseru a rhaid ei gwblhau a’i gyflwyno erbyn hanner dydd ar y dyddiad cau i’w ystyried ar gyfer cam nesaf y broses. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn y prawf os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch chi.

Sylwer: Os ydych chi eisoes yn aelod o’r GSG, rydych chi wedi eich eithrio rhag sefyll y prawf GSS ar-lein. Er mwyn atal eich cais rhag cael ei wrthod, gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon eich manylion neu’ch rhif aelodaeth drwy e-bost at Recruitment@tfw.wales cyn gynted ag y byddwch yn cyflwyno cais. Ar ôl i chi gael cadarnhad, bydd ein tîm recriwtio yn eich symud i’r cam nesaf.

Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, byddwch yn cael eich asesu gan ddefnyddio technegau asesu sy’n cyd-fynd â’r Cymwyseddau Technegol GSG a restrir uchod.

 

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

 

**Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**