Mae hwn yn gontract tymor penodol hyd at 31 Awst 2025.
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Pwy ydyn ni
Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.
Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.
Cyfrifoldebau’r swydd
Bydd y Dadansoddwr Cymorth i Wasanaethau TG yn cefnogi ac yn darparu amrywiaeth o wasanaethau Technoleg Gwybodaeth er mwyn galluogi’r cwmni i gyflawni ei fusnes craidd.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Sgiliau Iaith Gymraeg
Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol
Y camau nesaf
A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.
Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.
* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.
**Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.*