Bydd y Rheolwr Cyflawni Partneriaeth y Ddyletswydd Trais Difrifol yn adrodd yn uniongyrchol i’r Pennaeth Strategaeth yn Swyddfa'r Comisiynydd ond bydd yn gweithio ar ran yr 'Awdurdodau Penodedig' o dan y Ddyletswydd Trais Difrifol, sy'n ceisio cymryd agwedd iechyd cyhoeddus tuag at atal a lleihau trais difrifol.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio gydag uwch-randdeiliaid mewnol ac allanol i gyflawni Asesiad Strategol o Angen, Strategaeth a Chynllun Cyflawni amlasiantaeth, a sicrhau bod y rhain yn cael eu hymgorffori yn y sefydliadau a phartneriaethau perthnasol ledled Gwent i gyflawni canlyniadau gofynnol. Bydd y rhain yn cael eu diweddaru bob blwyddyn a bydd angen eu rheoli trwy drefniadau partneriaeth strategol newydd.
Bydd deiliad y swydd yn goruchwylio a chefnogi gwaith i gyflawni'r cynllun gweithredu dilynol ar ran partneriaid, gan gynnwys rhoi rhaglen lwyddiannus o newid ar waith i gyflawni unrhyw 'ymyraethau' newydd fel y pennwyd gan y strategaeth (fel gwasanaethau comisiynu, creu timau a strwythurau llywodraethu newydd).
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd fonitro perfformiad unrhyw ymyraethau i sicrhau eu bod yn cyflawni'r buddiannau disgwyliedig, a chyflwyno adroddiad am gynnydd i Swyddfa'r Comisiynydd, partneriaid, y Swyddfa Gartref, a rhanddeiliaid a strwythurau llywodraethu eraill - lleol a chenedlaethol.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a maes tystiolaeth Manyleb y Person sy'n nodi ffurflen gais a'r uchafswm geiriau ar gyfer pob adran.
Nodwch deitl y maes rydych yn dangos tystiolaeth ar ei gyfer a rhowch y dystiolaeth yn y blwch canlynol. I ychwanegu'r maes nesaf, dewiswch enghraifft arall ar gyfer pob maes gofynnol fel y nodir ym Manyleb y Person.
Cyfeiriwch at y canllaw i ymgeiswyr ar y wefan hefyd, sy'n rhoi mwy o fanylion ar sut i lunio eich ymateb.
Nid yw swyddogion heddlu sy’n gwasanaethu yn gymwys i ymgeisio ar gyfer swyddi gwag mewnol staff yr heddlu.
Sylwer – mae’n rhaid i Ringylliaid fod wedi cwblhau 12 mis yn eu swydd cyn y gallant ymgeisio am swyddi eraill oni bai bod amgylchiadau eithriadol.
Y buddion rydym yn eu cynnig
Yma yn Heddlu Gwent, rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr, ac rydym yn rhoi digonedd o gefnogaeth a hyfforddiant i sicrhau eich bod yn rhagori yn eich swydd. Rydym hefyd yn cynnig buddion fel y rhai canlynol:
Er mwyn i ni allu darparu gwasanaeth plismona rhagorol i bawb, mae angen pobl o bob cefndir arnom ni, gydag amrywiaeth o brofiadau proffesiynol a phrofiadau bywyd, fel ein bod yn cynrychioli ein cymunedau go iawn.
Mae gan Heddlu Gwent raglen gymorth gweithredu cadarnhaol i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. I gael mwy o wybodaeth e-bostiwch Brian, Clare a Rima: positive.action@gwent.police.uk neu ewch i’n tudalen gweithredu cadarnhaol yma: Gweithredu Cadarnhaol | Heddlu Gwent
Rydym yn falch i fod yn wasanaeth plismona sy’n siarad Cymraeg ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â sgiliau Cymraeg.