Swydd:
Arweinydd Golwg Gwahanol ar Gymru
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
£44,000-£48,000 y flwyddyn
Cyfeirnod:
202401RNIB
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
RNIB Royal National Institute of Blind People
Dyddiad Cau:
16-02-2025

Mae Tîm Newid Cymdeithasol RNIB Cymru yn gweithio i gael gwared ar y rhwystrau a wyneba pobl ddall a phobl sydd â golwg rhannol mewn bywyd bob dydd.


Fel Arweinydd Golwg Gwahanol ar Gymru byddwch yn rhan o dîm uchelgeisiol, creadigol a deinamig. Rydym wedi cael llawer o lwyddiant yng Nghymru ac yn chwilio am yr ymgeisydd iawn i ymuno â’n tîm, gan rannu ein huchelgais i wneud byd sy’n gweithio’n well i bobl ddall a phobl sydd â golwg rhannol.


Mae hon yn swydd llawn amser, am gyfnod penodol o 3 blynedd, yn gweithio’n hybrid gyda’r disgwyliad i fod yn ein swyddfa yng Nghaerdydd pan fo angen.

 

 

Ynglŷn â’r Swydd

 

Byddwch yn arwain ar y gwaith o gyflawni’r Prosiect “Hiraeth – Golwg Gwahanol ar Gymru”, a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Ein nod yw gwneud Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol Cymru, yn ogystal ag ardaloedd gwledig eraill y wlad, yn hygyrch i ymwelwyr a thrigolion dall ac sydd â golwg rhannol er mwyn sicrhau eu bod yn wirioneddol gynhwysol.


Rydym hefyd am sicrhau bod pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig ac yn ymwneud â galwedigaethau traddodiadol fel ffermio yn ymwybodol o bwysigrwydd gofalu am eu golwg a sut i gael mynediad at gefnogaeth pe bai angen.

 

Mae Hiraeth – Golwg Gwahanol ar Gymru yn cynrychioli partneriaeth sylweddol o sefydliadau sy’n dod at ei gilydd i ffurfio un traws-sefydliadol partneriaeth.

 

 

Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano

 

Profiad sylweddol o gyflawni prosiectau ymchwil neu arloesi mawr, sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr, a chyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb.


Profiad sylweddol o weithio ar y cyd â nifer fawr o uwch randdeiliaid, y gallai fod gan rai ohonynt flaenoriaethau gwahanol, a chadw pawb yn gytûn ac yn gefnogol.


Dealltwriaeth o'r rhwystrau a wyneba pobl ddall a phobl rhannol ddall a'r gallu i gyfleu'r heriau a ddaw yn sgil hyn i amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd.


Gwybodaeth am ddiwylliant Cymreig a heriau economaidd-gymdeithasol sy'n unigryw i leoliadau gwledig a chymunedau ffermio.

 

 

Yr hyn yr ydym yn ei gynnig

 

Mae RNIB yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn lle gwych i weithio gyda diwylliant cadarnhaol, blaengar. Rydym yn cynnig ystod eang o fuddion gan gynnwys 26 diwrnod o wyliau’r flwyddyn (ynghyd â gwyliau banc) sy’n codi gyda gwasanaeth, buddion ar gyfer teuluoedd, cynllun pensiwn cyfrannol gyda chyfraniad cyflogwr o hyd at 11% a phlatfform gwobrau gyda gostyngiadau i weithwyr ar gyfer dros 800 o fanwerthwyr.


Am ragor o wybodaeth am y buddiannau sydd ar gael, ewch i'n tudalen Buddiannau Gweithio RNIB.

 

 

Sut i Ymgeisio

 

Os hoffech ymgeisio am y cyfle hwn, gwnewch gais ar-lein, gan uwchlwytho eich CV a’ch datganiad ategol, gan ddweud wrthym sut rydych yn bodloni’r meini prawf yn adran 1 o’r fanyleb person.


Dyddiad cau: Hanner Nos 16 Chwefror.