Swydd:
Cydlynydd Ysgolion x 2
Lleoliad:
Canolbarth Cymru, Gogledd Cymru
Cyflog:
£28,337 - £31,485 pro rata
- Rhaid i chi fod yn byw yng Ngogledd neu Ganolbarth Cymru
- Dwy swydd - 28 awr yr un (sy'n cyfateb i 4 diwrnod yr un). Parhaol.
- Gweithio gartref, gyda'r angen i deithio.
- Mae'r gallu i gynnal sgwrs syml yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Byddai'n ddymunol pe gallai'r ymgeisydd llwyddiannus ateb gohebiaeth syml yn Gymraeg.
Hoffech chi roi hwb i'r hyn mae'r NSPCC yn ei gynnig i ysgolion?
Yn 2021, cyhoeddodd yr NSPCC strategaeth 10 mlynedd newydd i gael yr effaith fwyaf bosibl i roi diwedd ar esgeuluso a cham-drin plant. Mae ein timau Gwasanaethau Lleol yn rhan hanfodol o'r ffordd y bydd tri phrif nod strategol yr NSPCC yn cael eu cyflawni:
- Bod pawb yn chwarae eu rhan i atal cam-drin plant.
- Bod pob plentyn yn ddiogel ar-lein.
- Bod plant yn teimlo'n ddiogel a bod rhywun yn gwrando arnynt ac yn eu cefnogi.
Mae Gwasanaethau Lleol yn dwyn ynghyd ein gwaith mewn ysgolion, ymgyrchoedd lleol, a'n gwasanaethau uniongyrchol ar draws 9 rhanbarth a gwlad. Mae tîm Gwasanaeth Ysgolion Cymru yn rhan annatod o'n cenhadaeth gan ei fod yn gyfrifol am ddarparu'r cynnig i ysgolion.
- Oes gennych chi brofiad o ddarparu rhaglenni mewn lleoliad addysgol neu ddiogelu?
- Oes gennych chi brofiad diweddar o ddilyn gweithdrefnau diogelu?
- Oes gennych chi sgiliau datblygedig i reoli cysylltiadau â rhanddeiliaid?
- Ydych chi wedi cael mwynhad o weithio gyda grwpiau amrywiol o bobl yn y gorffennol?
- Oes gennych chi brofiad perthnasol o ran recriwtio, rheoli a goruchwylio gwirfoddolwyr?
- Oes gennych chi brofiad o weithio tuag at ddangosyddion perfformiad allweddol/targedau penodol a'u cyflawni?
- A fyddech chi'n gallu gweithio fel rhan o dîm o bell?
Os felly, byddem yn falch petaech chi'n gwneud cais am swydd Cydlynydd Ysgolion.
Gan adrodd i'r Rheolwr Ysgolion, bydd swydd y Cydlynydd Ysgolion yn cynnwys:
- bod yr unig bwynt cyswllt ar gyfer pob ysgol gynradd yn yr ardal ddynodedig, gan gynnwys lleoliadau nad ydynt yn rhai prif ffrwd
- cydlynu'r gwaith o gyflwyno'r rhaglen Cofia ddweud. Cadwa'n ddiogel ar-lein
- bod yn gyfrifol am oruchwylio'r gwaith o gyflwyno gweithdai dan arweiniad gwirfoddolwyr
- arwain a rheoli tîm amrywiol o wirfoddolwyr
- gweithio i osod targedau a dangosyddion perfformiad allweddol
- bod yn gyfrifol am feithrin a chynnal cysylltiadau mewnol ac allanol
- recriwtio, hyfforddi a chadw gwirfoddolwyr presennol a rhai newydd, gan ddarparu datblygiad parhaus
- manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ac ar weithio mewn partneriaeth
- bod yn hyderus wrth gynnal cyflwyniadau i randdeiliaid, fel awdurdodau lleol ac uwch arweinwyr ysgolion
- cynrychioli Gwasanaethau Lleol a Gwasanaeth Ysgolion yr NSPCC yn y fforwm cyhoeddus
- cyfrannu'n weithredol at brosiectau a ffrydiau gwaith mewnol
Fel aelod o'n tîm, byddai ein gwerthoedd a'n hymddygiadau sefydliadol yn bwysig i chi. Rydym yn chwilio am rywun fydd yn canolbwyntio ar y plentyn, sydd â chred gref yn hawliau plant, ac sydd â dealltwriaeth ac ymrwymiad clir i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd ar fywyd ac ymarfer.
Gwnewch gais drwy lenwi'r ffurflen gais lawn, a darparu datganiad ategol sy'n rhoi enghreifftiau clir o'ch profiad i ddangos sut rydych chi'n bodloni pob pwynt ym manyleb y person.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Rhian Jones, (Rheolwr Gwasanaeth Ysgolion Cymru NSPCC) rhian.jones@nspcc.org.uk