Swydd:
Swyddog Ymchwil
Lleoliad:
Casnewydd, Cymru
Cyflog:
Cyflog o £32,460 - £39,690 y flwyddyn
Cyfeirnod:
JDBJI3103/SB
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Qualifications Wales / Cymwysterau Cymru
Dyddiad Cau:
11-04-2023

Swyddog Ymchwil
Casnewydd, Cymru (gweithio hybrid)

Amdanom ni

Ni yw Cymwysterau Cymru, y sefydliad annibynnol sy’n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol yng Nghymru. Rydym yn canolbwyntio ar gymwysterau a ariennir yn gyhoeddus, gan gynnwys TGAU, Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol.

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Swyddog Ymchwil i ymuno â ni yn barhaol, llawn amser gan weithio 37 awr yr wythnos.

Y Manteision

- Cyflog o £32,460 - £39,690 y flwyddyn
- Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
- 30 diwrnod o wyliau blynyddol (a gwyliau cyhoeddus a chau swyddfeydd dros y Nadolig)
- Trefniadau gweithio hyblyg

Mae hwn yn gyfle gwych i weithiwr ymchwil proffesiynol sydd â phrofiad o grynhoi ymchwil a gynhaliwyd gan bobl eraill i ymuno â'n sefydliad rhagorol.

Fel sefydliad sy’n canolbwyntio ar gymwysterau, rydym yn cydnabod gwerth hyfforddiant a datblygiad i’n staff a byddwn yn eich cefnogi i gynnal set flaengar o sgiliau a gwybodaeth ymchwil.

Y Rôl

Fel Swyddog Ymchwil, byddwch yn cefnogi datblygu a chyflwyno ymchwil ac ystadegau ar asesu addysg a chymwysterau i gefnogi gwneud penderfyniadau polisi.

Gan gyfrannu at ein hymchwil, byddwch yn cynnal adolygiadau llenyddiaeth, arolygon, cyfweliadau a grwpiau ffocws, cyn dadansoddi ac adrodd ar ganlyniadau i gynhyrchu erthyglau y gellir eu cyhoeddi.

Gan ddarparu cymorth ymchwil ar draws ein sefydliad, byddwch yn cefnogi cydweithwyr gyda chyngor ar ddylunio ymchwil, methodolegau a dadansoddi tra'n cynnig adborth adeiladol ac addysgiadol.

Amdanat ti

I gael eich ystyried yn Swyddog Ymchwil, bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad o ddylunio a chynnal prosiectau ymchwil ar raddfa fach
- Profiad o grynhoi ymchwil a gynhaliwyd gan bobl eraill
- Dealltwriaeth gadarn o arfer da mewn ymchwil a safonau proffesiynol
- Gwybodaeth dda o ddulliau ymchwil ansoddol a/neu feintiol
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol
- Gradd (neu gyfwerth) o leiaf mewn gwyddor gymdeithasol gyda hyfforddiant ymchwil sylweddol

Byddai profiad o adolygu a rhoi adborth ar ymchwil a gwblhawyd gan bobl eraill yn fuddiol iawn, yn ogystal â gwybodaeth ymarferol o'r feddalwedd a ddefnyddir mewn ymchwil.

Byddai'n fanteisiol cael gwybodaeth am naill ai'r sector addysg ar draws y DU neu wybodaeth am ymchwil addysg. Byddai'r gallu i siarad Cymraeg yn ogystal â Saesneg hefyd yn ddymunol.

Efallai y bydd y swydd hon yn gofyn am deithio achlysurol ac aros dros nos.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11 Ebrill 2023 am 10am.

Cyfweliadau: 19 neu 20 Ebrill 2023.

Gallai sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Ymchwilydd, Gwyddonydd Cymdeithasol, Ymchwilydd Ansoddol, Ymchwilydd Meintiol, Ymchwilydd Dulliau Cymysg, Cynorthwyydd Ymchwil, neu Ymchwilydd Addysg.

Felly, os ydych yn chwilio am rôl ymgysylltiol fel Swyddog Ymchwil, gwnewch gais drwy’r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.