Mae’r Rheolwr Prosiect yn swydd allweddol yn y swyddogaeth Rheoli Newid, yn gweithio ar lefel uwch ac yn gyfrifol am gyflawni newid sefydliadol strategol, yn unol â'r blaenoriaethau sefydliadol a’r rhaglen newid gyffredinol. Mae’n gweithio ar raglen eang ac amrywiol o brosiectau lleol, cenedlaethol a chydweithredol o fewn terfynau amser, cyllideb, ac yn unol â strwythurau llywodraethu.
SUT I YMGEISIO
Os ydych chi'n credu bod gennych chi'r sgiliau a'r brwdfrydedd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y disgrifiad swydd. Os ydych chi'n credu mai hon yw'r swydd i chi, llenwch ffurflen gais, gan ddangos tystiolaeth yn y meysydd gofynnol (fel arfer ar dudalen olaf y disgrifiad swydd a gellir gweld yr uchafswm geiriau ar gyfer pob maes yn y ddogfen hon hefyd).
Sylwch fod teitlau’r meysydd y mae gofyn i chi ddangos tystiolaeth yn eu herbyn (yn unol â’r fanyleb person) wedi’u llenwi ar y ffurflen gais yn barod. Cyfeiriwch at y fanyleb person i gael gwybodaeth bellach am y dystiolaeth sy’n ofynnol o dan bob teitl.
Cyfeiriwch hefyd at y canllaw i ymgeiswyr sydd ynghlwm isod sy'n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau eich cais.
YMGEISWYR MEWNOL: Sylwer na allwn symud eich cais i’r cam rhestr fer nes y byddwn wedi derbyn eich ffurflen Cymeradwyaeth Rheolwr Llinell. Cyflwynwch y ffurflen hon erbyn y dyddiad cau. Diolch.
Y buddion rydym yn eu cynnig:
Yma yn Heddlu Gwent, rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr, ac rydym yn rhoi digonedd o gefnogaeth a hyfforddiant i sicrhau eich bod yn rhagori yn eich swydd. Rydym hefyd yn cynnig buddion fel y rhai canlynol:
Amrywiaeth a'r Gymraeg
Er mwyn i ni allu darparu plismona rhagorol i bawb, mae angen pobl o bob cefndir arnom ni, gydag amrywiaeth eang o brofiadau proffesiynol a phrofiadau bywyd, er mwyn i ni allu cynrychioli ein cymunedau go iawn.
Mae Heddlu Gwent yn darparu rhaglen gymorth gweithredu cadarnhaol i grwpiau a dangynrychiolir. I gael mwy o wybodaeth anfonwch e-bost at Brian a Clare: positive.action@gwent.police.uk neu ewch i'n tudalen gweithredu cadarnhaol yma: Gweithredu Cadarnhaol | Heddlu Gwent.
Rydym yn falch i fod yn wasanaeth heddlu sy'n siarad Cymraeg ac rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr gyda sgiliau Cymraeg.
Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd
Rydym yn cael ein cydnabod fel cyflogwr hyderus o ran anabledd. Ein nod yw recriwtio a chadw pobl anabl, a phobl â chyflyrau iechyd, er mwyn eu sgiliau a'u talent. Gallwch ddangos ar eich ffurflen gais a oes angen unrhyw gymorth neu addasiadau arnoch i'ch galluogi i wneud y swydd, neu i'ch cynorthwyo gyda'ch cais.