Ry' ni'n chwilio am Gynorthwy-ydd Cynhyrchu (PA) profiadol neu dan hyfforddiant i ymuno a Tinopolis, i weithio fel aelod o'r tim cynhyrchu ar raglenni S4C gan gynnwys yn benodol Heno a Prynhawn Da.
Byddwch yn gyfrifol am ddyletswyddau PA galeri yn ogystal a chreu, casglu a chwblhau'r holl ddeunydd gweinyddol angenrheidiol mewn perthynas a'r rhaglenni.
Gan mai swydd PA profiadol neu dan hyfforddiant sy' dan sylw, ry' ni'n agored i ystyried amrywiaeth o sgiliau. Gan fod y swydd yn rhan annatod o'r tim cynhyrchu, bydd dealltwriaeth o'r rhaglenni a diddordeb yn yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru o fantais.
Oherwydd gofynion y rol hon mae'r gallu i siarad Cymraeg yn angenrheidiol.
Rydym yn gwmni sy'n awyddus i adlewyrchu'r cymunedau ry' ni'n gwasanaethu ac yn credu mewn amrywiaeth a chyfleon cyfartal, ac rydym bob amser yn croesawu ceisiadau wrth unigolion o unrhyw oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb, a chefndir cymdeithasol yn unol a Deddf Gydraddoldeb 2010.
Lleoliad: Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli SA15 3YE
Cyflog: yn ddibynnol ar brofiad
Dyddiad Cau: 10fed o Fehefin 2025
Oriau Gwaith: Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos ond oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys, penwythnosau a gwyliau banc.
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno a Chynllun Pensiwn yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn l0fed o Fehefin 2025 at swyddi@tinopolis.com neu Swyddi, Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE.