Swydd:
Cynghorydd Llwybr a Pherfformiad
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
Cyflog – Graddfa 9 (£45,111.09 - £48,324.12)
Cyfeirnod:
KBAAZ0412/SB
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Sport Wales
Dyddiad Cau:
04-12-2023

AM Y SWYDD WAG YMA

ADRAN A CHYFLOG

Adran – Cyfarwyddiaeth y System Chwaraeon

Cyflog – Graddfa 9 (£45,111.09 - £48,324.12)

Oriau Gwaith – 37 awr (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / llai o oriau yn unol â’n polisi gweithio hyblyg)

PWY YDYM NI

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth galon popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma. 

SUT BYDDWCH CHI’N CYFRANNU

Y Weledigaeth ar y cyd ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru yw creu cenedl actif lle gall pawb fwynhau chwaraeon am oes. Er mwyn gwireddu’r Weledigaeth, mae angen i ni feithrin system chwaraeon gynhwysol sy’n darparu cyfleoedd sy’n cael eu harwain gan angen sy’n ddiogel, yn bleserus ac yn ddatblygiadol.

Rydyn ni eisiau cefnogi llwyddiant i Gymru ar lwyfan y byd drwy ddull hirdymor, cyfannol o ddatblygu athletwyr. Sicrhau bod pob person yng Nghymru sydd â’r dyhead i wella a symud ymlaen mewn chwaraeon yn cael y cyfleoedd, y profiadau, yr amgylcheddau a’r sgiliau i gyrraedd eu potensial a chyflawni eu nodau.

Gan weithio gyda'n partneriaid, rydyn ni eisiau darparu cyfleoedd i sylfaen ehangach o athletwyr a sbarduno newid ystyrlon i sicrhau bod y cyfleoedd yn fwy cynhwysol. Chwaraeon yn chwarae rhan mewn datblygu’r person a'r perfformiwr. 

Mae llwyddiant ar lwyfan y byd yn un o ganlyniadau dymunol datblygiad athletwyr rhagorol. Mae helpu i ddatblygu pobl a all ffynnu mewn bywyd, cyn, yn ystod ac ar ôl eu gyrfa chwaraeon, yn rhywbeth arall rydyn ni’n ei ystyried fel rhywbeth yr un mor werthfawr.

GYDA PHWY FYDDWCH CHI’N GWEITHIO

Fel aelod o dîm Strategaeth y System Chwaraeon, byddwch yn gweithio gyda phobl sy’n rhannu angerdd dros wneud y system chwaraeon yn fwy cynhwysol ac sy’n deall y rôl hanfodol y gall perfformiad, sylfeini a hyfforddi ei chwarae yn hynny.

Byddwch hefyd yn gweithio’n agos gyda thîm Rheolwr Perthnasoedd Chwaraeon Cymru, arweinwyr yn nhîm Gwasanaethau Athrofa Chwaraeon Cymru a chydweithwyr o bob rhan o system llwybr a pherfformiad y DU i nodi’r meysydd hynny a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf o ran sicrhau llwyddiant i Gymru ar lwyfan y byd drwy ddull cyfannol o ddatblygu athletwyr.

Byddwch yn datblygu perthnasoedd dylanwadol gydag Arweinwyr Perfformiad, Arweinwyr Llwybrau a staff allweddol eraill mewn Cyrff Rheoli Cenedlaethol. Byddwch yn eu helpu i ddeall y dull rydym yn ei hyrwyddo mewn amgylcheddau llwybr a pherfformiad i wireddu’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru drwy System Chwaraeon Gynhwysol.

BETH FYDD ARNOCH EI ANGEN

Bydd arnoch angen angerdd i wneud y system chwaraeon yn fwy cynhwysol a’r gallu i gynhyrchu syniadau a dylanwadu ar feddwl mewn ffordd a fydd yn arwain at newid cadarnhaol, hirdymor gyda chwaraeon a thrwy gydweithredu ar draws y sector. 

Bydd gennych brofiad o ddatblygu perthnasoedd gyda phartneriaid mewnol ac allanol, gan feithrin ymddiriedaeth, a gweithredu mewn ffordd sy’n rhoi hyder i eraill ynoch chi.

Bydd gwybodaeth a phrofiad o Ddatblygiad Athletwyr / Llwybrau a Rhaglenni Perfformiad o fantais yn y rôl hon. Fodd bynnag, ar gyfer ymgeisydd sydd â'r sgiliau a'r ymddygiadau priodol, gallwn roi unrhyw brofiad i chi nad oes gennych ar hyn o bryd. 

BETH SY’N DIGWYDD NESAF

Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn (cofiwch nad ydym yn derbyn CV). 

Gallwch wneud cais am y rôl yma nawr.

DYDDIAD CAU: Dydd Llun 4ydd Rhagfyr 9am

DYDDIAD DROS DRO Y CYFWELIAD: Dydd Mercher 13eg Rhagfyr / Dydd Iau 14eg Rhagfyr