Swydd:
Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd
Cyflog:
£49,498 - £51,515
Pwrpas y Swydd.
Arwain y tîm(au) y mae’n gyfrifol amdano (ynt) i gyflawni yn effeithiol ac effeithlon yr hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd drwy greu a chynnal amgylchedd o barch ac ymddiriedaeth gan rymuso, arfogi ac ysbrydoli’r staff.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
- Staff
- Cyllideb gwasanaeth
- Rheolaeth adeilad Llyfrgell Caernarfon (ar y cyd)
Prif Ddyletswyddau.
ARWAIN
- Bod yn atebol am y Gwasanaeth a’r defnydd mwyaf effeithiol ac effeithlon o’r adnoddau sydd ar gael
- Arwain staff y Gwasanaeth drwy annog a chymell i berchnogi egwyddorion Ffordd Gwynedd a bod yn atebol am sicrhau fod hynny’n digwydd
- Sicrhau amgylchedd o fewn y tîm sy’n hyrwyddo ac annog llesiant staff
- Cynorthwyo’r tîm i sefydlu egwyddorion gweithredu gan ystyried deddfau perthnasol (e.e. Iechyd a Diogelwch, Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant) a sicrhau eu bod yn cadw atynt
- Bod yn ymwybodol o sut y mae systemau’r tîm yn gweithio a hwyluso i’w herio ple bo’r angen
- Sicrhau fod y tîm yn cyfrannu at amcanion gwasanaethau neu sefydliadau eraill sy’n ceisio cyflawni’r hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd.
- Hyrwyddo’r angen i adnabod a gweithredu ar fygythiadau a chyfleoedd y dyfodol gan gynnwys camau ataliol
- Sicrhau ymwybyddiaeth o’r hinsawdd gyfreithiol a gwleidyddol sy’n effeithio ar y gwasanaeth gan sicrhau fod aelodau’r tîm yn ymwybodol o’r elfennau angenrheidiol.
- Bod yn fyw i ymarfer da o fewn y maes gwasanaeth a sicrhau fod y tîm yn ystyried priodoldeb yr ymarfer da hwnnw iddynt hwy.
- Arwain newid o fewn y maes gwasanaeth lle mae angen gwneud hynny
- Ymdrin gyda materion a godir gan Aelodau Etholedig ynglŷn â’r Gwasanaeth.
GALLUOGI A GRYMUSO
- Recriwtio a datblygu unigolion a thimau i sicrhau bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol i gyflawni’r rolau sydd eu hangen rwan ac i’r dyfodol
- Arfogi’r tîm i sefydlu beth sy’n bwysig i bobl Gwynedd a thrwy hynny sefydlu pwrpas y tîm a’i gadw’n gyfredol
- Sicrhau fod penderfyniadau yn cael eu gwneud ar sail tystiolaeth.
- Helpu’r tîm i adolygu a herio ei berfformiad
- Creu a chynnal awyrgylch sy’n galluogi pob aelod o’r tîm i gyfrannu a chymryd penderfyniadau er mwyn darparu’r gwasanaethau gorau posib
- Sicrhau awyrgylch o ymddiriedaeth ac atebolrwydd o fewn y tîm gan sicrhau cyfathrebu priodol gyda ac o fewn y tîm.
CYFLAWNI
- Arfogi’r tîm i ystyried pa fesurau sy’n dangos perfformiad yn erbyn y pwrpas ac i berchnogi’r mesurau hynny
- Annog y tîm i arloesi, mentro a dysgu o brofiad er mwyn gwella perfformiad
- Cymell a/neu mentora y tîm i adnabod a gweithredu’n amserol er mwyn dileu rhwystrau sy'n atal y gallu i gyflawni yr hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd
- Datrys unrhyw rwystrau na all y tîm eu datrys
- Sicrhau fod cwynion yn derbyn sylw priodol a bod y tîm yn ystyried unrhyw wersi sy’n codi er mwyn gwella gwasanaeth.
- Gweithredu mewn ffordd rhagweithiol; bod yn agored i feddwl yn wahanol; yn egnïol ac ymroddedig gydag integriti personol er mwyn cyflawni’r swyddogaethau isod gan sicrhau bod staff yr Adran yn cael eu datblygu i arddangos yr un nodweddion.
HUNAN ADLEWYRCHU - ar gyflawniad personol yr hyn sydd yn y swydd-ddisgrifiad.
MEYSYDD PENODOL Y SWYDD
- Arwain a rheoli’r Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth yn ei holl agweddau – cyllidebau, staff, rhaglenni gwaith, blaenoriaethau ayb ac yn unol â dyletswyddau’r Ddeddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964, a chynghori'r Pennaeth Adran neu’r Pennaeth Cynorthwyol ac Aelod Cabinet ar faterion yn ôl y gofyn.
- Hyrwyddo safon ac ansawdd y gwasanaeth yn unol â thargedau Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru a’r amcanion a nodir yn y Strategaeth Llyfrgelloedd.
- Gweithredu fel rheolwr llinell i’r Arweinyddion Tim gyda gofal staff, yn cynnwys Swyddog Celfyddydau Perfformio, Neuadd Dwyfor ac unrhyw weithwyr allweddol cynlluniau a phrosiectau dros dro.
- Arwain ar faterion llyfrgell ar gyfer yr Awdurdod, gan adnabod meysydd sydd angen sylw ag hysbysu’r Pennaeth Adran neu’r Pennaeth Cynorthwyol o faterion gweithredol, megis anghenion cyllidebol, hyfforddiant a dyletswyddau staff, materion iechyd a diogelwch, rheolaeth adeiladau a materion eraill o fewn gweithdrefnau’r Cyngor.
- Cynrychioli diddordebau llyfrgelloedd ar y Tîm Rheoli Economi a Chymuned gan hysbysu aelodau eraill o faterion a fydd yn effeithio ar y sector Llyfrgell a Gwybodaeth a meysydd priodol eraill gan gynnwys llenyddiaeth a llythrennedd gwybodaeth.
- Cydweithio gydag aelodau eraill y Tîm Rheoli Economi a Chymuned ac Adrannau eraill y Cyngor er mwyn datblygu gwasanaeth cyhoeddus integredig llawn.
- Sicrhau fod trefniadau prydlesu a darparu gwasanaeth mewn partneriaeth a sefydliadau eraill yn cael ei gynnal ac adnabod cyfleon a rhwystrau, a gweithio i gynnal y cydweithio mwyaf effeithiol posib er mwyn parhau gwasanaeth.
- Sicrhau datblygiad a gweithrediad un tîm unedig yn Neuadd Dwyfor.
- I arwain datblygiad tîm swyddogion y Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth ac unrhyw unedau cysylltiol gan gefnogi eu datblygiad a gweithgarwch proffesiynol yn cynnwys hyrwyddo ymarfer gorau yn unol â’r cod ymarfer i lyfrgellwyr siartredig.
- Hyrwyddo proffil uchel i'r gwasanaeth, gan sicrhau ei fod yn bwynt cyswllt i gymunedau a phobl Gwynedd, a chryfhau cysylltiadau efo gwasanaethau, sefydliadau a chyrff eraill.
- Cymryd rôl ragweithiol yn genedlaethol, gan gyfrannu a chydweithio tuag at waith a phrosiectau cysylltiedig o fewn Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru, a chydweithio gyda sefydliadau cenedlaethol er mwyn cynnal ansawdd a datblygiad llyfrgelloedd a’r cynigion cenedlaethol perthnasol. Cynrychioli'r awdurdod yng nghyfarfodydd Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru a chydweithredu mewn cynlluniau i hyrwyddo effeithlonrwydd a safonau darparu gwasanaeth.
- Arwain y prosiect LMS Cymru a goruchwylio gwaith y tim datblygu systemau a chyfarch anghenion y Consortiwm o ran cyfrifoldebau Cyngor Gwynedd fel Awdurdod Arweiniol.
- Mynychu cyfarfodydd Penaethiaid Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth Gogledd Cymru gan gefnogi cydweithio effeithiol ac effeithlon ym meysydd priodol i gynnal a gwella darpariaeth.
- Cydweithio a swyddogion yr Adran o Lywodraeth Cymru a chyfrifoldeb am oruchwylio datblygiad Lyfrgelloedd Cyhoeddus.
- Cynrychioli'r awdurdod yng nghyfarfodydd Grŵp Gweithredol y Bartneriaeth Addysg Gymunedol (Gwynedd a Môn) a chydweithredu i hyrwyddo effeithlonrwydd a safonau darparu gwasanaeth yn gysylltiedig a gweinyddiaeth y grant AGO.
- Arwain cynlluniau datblygu’r gwasanaeth gan gynnwys monitro gwariant cynlluniau cyfalaf a grantiau'r gwasanaeth ac adrodd yn rheolaidd ar gynnydd yn unol â’r gofynion mewnol ac allanol.
- Arwain y gwasanaeth ar faterion ym maes darllen, llenyddiaeth, addysg gymunedol a hyrwyddo llythrennedd gwybodaeth.
- Dirprwyo ar ran y Pennaeth neu’r Pennaeth Cynorthwyol yn ôl y gofyn yn y maes Llyfrgelloedd a Gwybodaeth a Diwylliant.
CYFFREDINOL
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
- Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
- Yn achlysurol, mae hi’n bosibl y bydd angen i ddeilydd y swydd weithio tu allan i oriau gwaith arferol ac i fynychu cyfarfodydd gyda’r nos, oddi fewn ac oddi allan i Wynedd, a gweithredu fel rhan o dîm yn ymateb i argyfyngau sifil, yn unol â chynllun argyfwng y Cyngor.
- Meddu ar drwydded yrru llawn a dilys a meddu ar gar.