Darlithydd mewn Cyfrifeg a Busnes
37 awr yr wythnos
Parhaol
£21,136 - £36,860
Dyddiad cau: 23/04/2021 am 12 canol dydd
Mae croeso I bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn saesneg
Ydych chi’n meddwl y gallech chi ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gyfrifyddion?
Ydych chi’n gyfrifydd cwbl gymwys gyda chefndir mewn diwydiant?
Ydych chi’n chwilio am newid gyrfaol?
Mae Coleg Sir Gâr yn chwilio am unigolyn dynamig a chreadigol i ymuno â’n tîm Cymwysterau Proffesiynol yn cyflwyno Rhaglenni Cyfrifyddu a Rheolaeth Busnes.
Byddwch chi’n arwain ein hadran Gyfrifyddu sydd uchel ei pharch gan weithio gyda’r rheolwyr a budd-ddeiliaid i ehangu’r ddarpariaeth sefydledig hon er mwyn bodloni anghenion y diwydiant yn y dyfodol.
Rydyn ni’n edrych am rywun â phrofiad diwydiannol a’r gallu i ysbrydoli a chefnogi oedolion proffesiynol i gyflawni eu potensial.
Byddwch chi’n arwain yr adran gyfrifyddu ac yn cydweithio gyda’r tîm Rheolaeth Busnes i ddatblygu ein portffolio cymwysterau proffesiynol
Bydd gennych y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch meddalwedd cyfrifyddu a byddwch yn hyderus yn eich galluoedd digidol i wneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer technolegau dysgu cyfunol
Disgrifiad Swydd
Bydd hi’n ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus: