Swydd:
Arweinydd Datblygu Treftadaeth
Lleoliad:
Pontypridd, Wrecsam
Cyflog:
£37,200.00 - £43,000.00
Cyfeirnod:
REC01217
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
19-03-2025

Disgrifiad swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Rôl yr Arweinydd Datblygu Treftadaeth yw gweithredu, cyflawni a helpu i fonitro deilliannau’r ffrwd waith a strategaethau, polisïau, gweithdrefnau, cynlluniau a phrosiectau sy’n gysylltiedig â threftadaeth – o’r amgylchedd hanesyddol i’r celfyddydau a diwylliant.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

 

  • Gweithredu prosiectau treftadaeth a thasgau’r ffrwd waith drwy ddefnyddio profiad, sgiliau a gwybodaeth i gefnogi’r broses o wreiddio Polisi a Chynllun Gweithredu Treftadaeth TrC (wrthi’n cael ei ddatblygu). Byddwch yn gwneud hyn gan weithio ar draws y tîm a’r sefydliad a sicrhau bod allbynnau a chanlyniadau’n cael eu gweithredu a’u cyflawni’n llwyddiannus yn unol â’r amcanion a nodir yn ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy a’n Cynllun Corfforaethol.

 

  • Cyflawni tasgau’r ffrwd waith drwy gysylltu â’r Arweinydd Technegol am gyfarwyddyd i sicrhau eich bod yn gallu cyrraedd cerrig milltir yn effeithiol yn unol ag amserlenni, cyllidebau ac ansawdd drwy gael cymeradwyaeth, hwyluso cyswllt, dod o hyd i ddeunyddiau a chyflenwyr, a chydlynu gwaith asesu neu wella a gosod.

 

  • Cydlynu a chefnogi’r gwaith o redeg y Panel Cynghori ar Dreftadaeth, y Fforwm Treftadaeth (gan gynnwys gweithgarwch gwirfoddolwyr) a grwpiau Gorchwyl a Gorffen fel y Grŵp Asedau ac Amgylchedd Hanesyddol yn effeithiol ac yn effeithlon i sicrhau bod cymaint o gydweithio â phosibl a bod cyfleoedd i gynhyrchu incwm yn cael eu harchwilio

 

  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu perthnasoedd â rhanddeiliaid o safbwynt treftadaeth drwy weithredu fel pwynt cyswllt allweddol i roi cyngor ac arweiniad a chefnogi cydweithio llwyddiannus i sicrhau bod treftadaeth yn cael ei gwreiddio ar draws y sefydliad a bod cyfleoedd ar gyfer partneriaethau a grantiau’n cael eu datblygu

 

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

 

  • Gradd a/neu MA/MSc mewn pwnc perthnasol fel treftadaeth, hanes, archaeoleg, yr amgylchedd hanesyddol neu reoli diwylliannol, neu bwnc perthnasol arall neu brofiad gwaith cyfatebol perthnasol.
  • Bod yn aelod o gorff cydnabyddedig fel y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol, Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr, y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol, y Gymdeithas Dehongli Treftadaeth neu debyg a/neu barodrwydd i weithio tuag at ennill achrediadau neu siarteriaethau.
  • Profiad o weithio yn y diwydiant treftadaeth neu ddiwydiant/maes perthnasol ac addas
  • Gwybodaeth ymarferol am asesiadau treftadaeth, safonau cadwraeth, deddfwriaeth treftadaeth a/neu ddehongli treftadaeth

 

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

 

**Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**