Swydd:
Pennaeth Gwasanaethau Dioddefwyr
Lleoliad:
Pontypool
Cyflog:
£51,294 - £54,879
Cyfeirnod:
7620
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Gwent Police
Dyddiad Cau:
13-02-2025

Ydych chi'n barod am yrfa werth chweil? Er mwyn i ni allu darparu plismona eithriadol i bawb mae angen gweithlu amrywiol arnom ni gydag amrywiaeth o sgiliau a galluoedd i ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i gymunedau Gwent.

 

Rhowch drosolwg o'r adran / crynodeb o'r swydd

Mae Heddlu Gwent yn chwilio am Bennaeth Gwasanaethau Dioddefwyr newydd i arwain y gwaith o ddarparu gwasanaethau gofal dioddefwyr a thystion yng Ngwent ar ran Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent a Heddlu Gwent.

Byddwch yn sicrhau bod fframwaith strategol ar waith i alluogi Heddlu Gwent i fod ar flaen y gad o ran darparu gwasanaeth i ddioddefwyr a thystion, gan sicrhau eu bod yn cael cymorth trwy gydol y broses cyfiawnder a'u bod yn derbyn y wybodaeth, y cymorth a'r arweiniad sydd eu hangen arnynt i ymdopi, er mwyn lleihau'r effaith hirdymor ar les emosiynol, meddyliol a chorfforol yn y dyfodol.

Byddwch yn gweithio gyda Heddlu Gwent a phartneriaid i sicrhau bod y sefydliad yn esblygu'n barhaus, gan ddarparu gwasanaeth ardderchog, pan fydd pobl ei angen fwyaf.

 

Yn y swydd yma, eich prif gyfrifoldebau fydd:

  • Datblygu a chynnal strategaeth prif ffrwd i Heddlu Gwent gydag asiantaethau allanol sy'n ymwneud â'r broses cyfiawnder troseddol, gyda'r nod o wella siwrnai dioddefwyr a thystion trwy'r system cyfiawnder troseddol.
  • Arwain gwasanaethau a thimau dioddefwyr a thystion Heddlu Gwent i sicrhau bod dioddefwyr a thystion trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Ngwent yn derbyn gwasanaeth cyson o safon uchel.
  • Cynrychioli Gwasanaethau Dioddefwyr a Thystion mewn cyfarfodydd byrddau llywodraethu strategol priodol, er mwyn:
  1. dangos arfer gorau,
  2. adolygu perfformiad,
  3. tynnu sylw at risgiau yn y gwasanaeth, a
  4. chydweithredu gydag adrannau galluogi

gyda'r nod cyffredinol o wella darpariaeth gwasanaeth.

Os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch ag Uwch-arolygydd Philip O'Connell, Pennaeth Ymchwiliadau a Dioddefwyr.

 

SUT I YMGEISIO

Os ydych chi'n credu bod gennych chi'r sgiliau a'r brwdfrydedd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y disgrifiad swydd. Os ydych chi'n credu mai hon yw'r swydd i chi, llenwch ffurflen gais, gan ddangos tystiolaeth yn y meysydd gofynnol (fel arfer ar dudalen olaf y disgrifiad swydd a gellir gweld yr uchafswm geiriau ar gyfer pob maes yn y ddogfen hon hefyd).

Os hoffech chi unrhyw wybodaeth bellach am y swydd, cysylltwch â X (enw Rheolwr Llinell, teitl swydd a chyfeiriad e-bost).

Sylwch fod teitlau’r meysydd y mae gofyn i chi ddangos tystiolaeth yn eu herbyn (yn unol â’r fanyleb person) wedi’u llenwi ar y ffurflen gais yn barod. Cyfeiriwch at y fanyleb person i gael gwybodaeth bellach am y dystiolaeth sy’n ofynnol o dan bob teitl.

Cyfeiriwch hefyd at y canllaw i ymgeiswyr sydd ynghlwm isod sy'n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau eich cais.

Y buddion rydym yn eu cynnig:

Yma yn Heddlu Gwent, rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr, ac rydym yn rhoi digonedd o gefnogaeth a hyfforddiant i sicrhau eich bod yn rhagori yn eich swydd. Rydym hefyd yn cynnig buddion fel y rhai canlynol:  

  • Hawl i wyliau blynyddol hael sy’n codi i naill ai 29 neu 30 diwrnod yn dibynnu ar raddfa, yn ogystal ag wyth gŵyl banc
  • Rhaglen Cymorth i Weithwyr ac amrywiaeth o raglenni cefnogi lles 
  • Mynediad am ddim i gampfeydd yn ein safleoedd 
  • Gostyngiadau gan nifer o fanwerthwyr trwy’r cynllun Blue Light a Cherdyn Vectis
  • Cynllun Beicio i’r Gwaith
  • Gweithio Hybrid/Ystwyth (yn dibynnu ar y swydd)
  • Cyfleoedd i weithio’n hyblyg
  • Cynllun pensiwn Llywodraeth Leol
  • Amrywiaeth o rwydweithiau cefnogi     
  • Hawl i wyliau mamolaeth/tadolaeth a mabwysiadu hael    
  • Darpariaethau tâl salwch hael   
  • Opsiwn i ymaelodi ag UNSAIN, yr undeb gwasanaethau cyhoeddus

 

Amrywiaeth a'r Gymraeg  

Er mwyn i ni allu darparu plismona rhagorol i bawb, mae angen pobl o bob cefndir arnom ni, gydag amrywiaeth eang o brofiadau proffesiynol a phrofiadau bywyd, er mwyn i ni allu cynrychioli ein cymunedau go iawn.

Mae Heddlu Gwent yn darparu rhaglen gymorth gweithredu cadarnhaol i grwpiau a dangynrychiolir. I gael mwy o wybodaeth anfonwch e-bost at Brian a Clare: positive.action@gwent.police.uk neu ewch i'n tudalen gweithredu cadarnhaol yma: Gweithredu Cadarnhaol | Heddlu Gwent.

Rydym yn falch i fod yn wasanaeth heddlu sy'n siarad Cymraeg ac rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr gyda sgiliau Cymraeg.

Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd 

Rydym yn cael ein cydnabod fel cyflogwr hyderus o ran anabledd. Ein nod yw recriwtio a chadw pobl anabl, a phobl â chyflyrau iechyd, er mwyn eu sgiliau a'u talent. Gallwch ddangos ar eich ffurflen gais a oes angen unrhyw gymorth neu addasiadau arnoch i'ch galluogi i wneud y swydd, neu i'ch cynorthwyo gyda'ch cais.