Mae S4C yn chwilio am Bennaeth Cyfathrebu i gynorthwyo’r Prif Weithredwr i greu strategaeth cyfathrebu uchelgeisiol ar gyfer y sefydliad. Byddwch yn cymryd camau cadarnhaol gydag eraill i wireddu uchelgais S4C o wella’r brand gyda’r gynulleidfa, partneriaid a’n rhanddeiliaid.
Byddwch yn cynorthwyo’r Prif Weithredwr i ddatblygu strategaeth 5-mlynedd i esblygu ein proffil ac ein delwedd ymhellach gyda chynulleidfaoedd newydd sydd yn bodoli yn barod boed yng Nghymru neu yn rhyngwladol. Mi fydd gosod cynulleidfaoedd a rhanddeiliaid wrth galon y cynllun yn hanfodol yn ogystal, a'r gallu i feithrin perthnasoedd gweithredol yn fewnol ac yn allanol a defnyddio sianeli a llwyfannau amrywiol mewn amgylchedd cyflym, cystadleuol. Yn brofiadol ym maes cyfathrebu, a materion cyhoeddus cewch gyfle i arwain tîm o fewn sefydliad sy'n trawsnewid a thirwedd sydd yn newid yn gyflym.
Wrth weithio gyda’r Prif Weithredwr a’r Tîm Rheoli byddwch yn gweithio'n strategol ar bob agwedd o waith S4C gan ddangos gwerthoedd ac ymddygiadau 'un tîm'. Byddwch yn cyfathrebu'n rhagweithiol blaenoriaethau S4C ar y cyd ag eraill, ar draws yr holl gyfryngau, gan ddangos effaith a dealltwriaeth glir o ystyriaethau gwleidyddol a gweithredol.
Mewngofnodwch i wefan Swyddle am fanylion pellach ac i ymgeisio