Swydd:
Rheolwr Rhaglen Gwasanaethau Digidol a TG
Lleoliad:
Pontypridd, Wrecsam
Cyflog:
Cystadleuol
Cyfeirnod:
REC01220
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
21-03-2025

Disgrifiad swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

 

Rôl y Rheolwr Rhaglen Gwasanaethau Digidol a TG yw arwain a chydlynu’r gwaith o gyflawni portffolios cymhleth, aml-brosiect sy’n cyd-fynd â nodau sefydliadol Trafnidiaeth Cymru (TrC) a chyflawni gwelliannau i brofiad defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn unol â pholisi a strategaeth trafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Sicrhau canlyniadau llwyddiannus i raglenni ar yr un pryd â sicrhau gwerth busnes drwy atebion sy’n seiliedig ar dechnoleg

  • Bod yn atebol am arwain a darparu dau bortffolio o raglenni a phrosiectau sy’n ymwneud â Gwasanaethau Digidol a TG ar draws TrC drwy fod yn atebol am ddefnyddio methodolegau cadarn ar gyfer cylch bywyd prosiect (fel APM neu PRINCE 2), gan weithredu cynllun y prosiect, cyflawni cerrig milltir allweddol a rheoli adnoddau a chyllidebau i sicrhau bod y rhain yn cael eu cwblhau’n ddiogel ac mewn da bryd, yn unol â’r gyllideb a’u bod o ansawdd.

 

  • Darparu gwasanaeth rheoli prosiectau a rhaglenni proffesiynol ac effeithiol, gan gynnwys trefniadau llywodraethu’r prosiect, y prosesau adrodd, y gweithgorau technegol a’r grwpiau llywio gweithredol, yn unol â’r prosesau a’r amserlenni angenrheidiol i sicrhau bod y prosiectau’n cyd-fynd â phrosesau TrC a’u bod yn cael eu cyflawni o safon ac yn unol â’r gyllideb.

 

  • Rheoli ac arwain timau prosiectau a rhaglenni drwy gydweithio â chydweithwyr mewnol, contractwyr/partneriaid allanol, rhanddeiliaid allweddol a'r gadwyn gyflenwi i sicrhau bod y prosiectau’n cyflawni’r canlyniadau a ddymunir o ran cwmpas y gwaith, amserlenni a chost.

 

  • Rheoli a bod yn atebol am y cyllidebau portffolio a ddyrennir ar y cyd â’r Pennaeth Portffolios a Rhaglenni a’r Partner Busnes Cyllid, gan uwchgyfeirio unrhyw amrywiadau lle bo angen i sicrhau bod costau’n cael eu cadw o fewn y gyllideb y cytunwyd arni.

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Cymhwyster lefel gradd mewn TG, Gweinyddu Busnes, Economeg neu faes cysylltiedig.
  • Meddu ar gymhwyster rheoli prosiect fel APM neu PRINCE2 neu debyg.
  • Profiad amlwg o arwain ar amrywiaeth o brosiectau TG a Gwasanaethau Digidol cymhleth sy’n ymwneud â thrafnidiaeth/rheilffyrdd fel uwch arweinydd y prosiect.
  • Profiad amlwg o reoli cyllideb, gan gynnwys llunio rhagolygon a monitro gwariant.

 

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

 

**Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**