Swydd:
Cynghorydd Profiad Cwsmeriaid
Lleoliad:
De Cymru
Cyflog:
Cyflog byw go iawn
Cyfeirnod:
REC01215
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
18-03-2025

Disgrifiad swydd

Cynghorydd Profiad Cwsmeriaid – Teithio Consesiynol

Patrwm shifft: Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 5pm, gydag un dydd Sadwrn ar hyn o bryd mewn 8 wythnos, gan weithio rhwng 8am a 4pm.

 

Sylwch: mae hwn yn gontract cyfnod penodol am 6 -mis 

 

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Cyfle gwych i ymuno â Trafnidiaeth Cymru (TrC) fel Cynghorydd Profiad Cwsmeriaid. Byddwch yn darparu cymorth gweinyddol i’r cynllun Cardiau Teithio Rhatach, a fydd yn cynnwys adolygu, prosesu a dosbarthu ceisiadau am gardiau teithio. Byddwch hefyd yn ymateb i ymholiadau a chwynion gan gwsmeriaid ar draws nifer o sianeli. Cefnogi amrywiol brosiectau eraill lle bo angen. 

  • Byddwch yn cefnogi gweithrediad llwyddiannus y gwasanaeth Cardiau Teithio Rhatach drwy ddarparu cymorth gweinyddol, cymorth rheng flaen dros y ffôn ac ymateb dros e-bost i ymholiadau cwsmeriaid, diweddariadau i geisiadau a chwynion er mwyn darparu gwybodaeth a datrys unrhyw broblemau yn brydlon.
  • Byddwch yn dilysu dogfennau a lluniau yn unol â meini prawf TrC i sicrhau bod ceisiadau cwsmeriaid yn cael eu prosesu mewn ffordd sy’n cydymffurfio.
  • Byddwch yn cwblhau tasgau’r system bob dydd drwy ymgynghori â’r gwahanol systemau gweinyddol i sicrhau bod y cynllun Cardiau Teithio Rhatach yn gweithredu’n ddi-dor a phrosesu ceisiadau.

 

Y Cynllun Cardiau Bws Rhatach

Rydym yn hybu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a chynaliadwy o safon uchel y mae pobl Cymru yn falch ohono. Fel rhan o’n hymrwymiad, rydym yn cynnig y canlynol:

Mae cardiau bws rhatach yn caniatáu i chi deithio am ddim ar y rhan fwyaf o wasanaethau bws a rhai gwasanaethau trên yng Nghymru, os ydych chi’n 60 oed neu’n hŷn, neu os ydych chi’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd.

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

Rydyn ni’n chwilio am rywun â phrofiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd gwasanaeth i gwsmeriaid gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig

  • Profiad o ddefnyddio amrywiaeth o systemau TG.
  • Gallu dilyn cyfarwyddiadau a gweithio ar eich liwt eich hun pan fo angen.
  • Bod yn gyfarwydd â meddalwedd Microsoft Office (gan gynnwys Microsoft Excel).
  • Gallu defnyddio system newydd i ddehongli gwybodaeth a chanfod tueddiadau.
  • Bod yn drylwyr gyda manylion.

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.