Swyddog Cynnwys – Cymraeg yn Hanfodol (FTC, tan fis Rhagfyr 2024)
Caerdydd neu Lanelwy (gyda gwaith hybrid)
Amdanom ni
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr.
I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, a data ac ymchwil i wella gofal.
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Swyddog Cynnwys i ymuno â’n tîm Cyfathrebu ar sail amser llawn am gontract tymor penodol tan fis Rhagfyr 2024.
Y manteision
- Cyflog o £32,458 - £34,318 (pro rata) y flwyddyn
- 28 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau banc (pro rata)
- Diwrnodau ychwanegol i ffwrdd rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
- Cynllun pensiwn llywodraeth leol
- Polisi gwaith hyblyg
- Gweithio hybrid
- Polisi absenoldeb teuluol
Y rôl
Fel Swyddog Cynnwys, byddwch yn datblygu, dylunio a chyhoeddi cynnwys clir, deniadol a hygyrch ar gyfer ein cynulleidfaoedd ar-lein ac all-lein.
Gan sicrhau bod ein cynnwys yn glir, yn hawdd ei ddeall, ac yn unol â’n safonau corfforaethol, byddwch yn defnyddio’r sianeli gorau i gyrraedd ein cynulleidfaoedd, gan gynnwys ein gwefan a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Byddwch hefyd yn creu cynlluniau marchnata a chyfathrebu ar gyfer y cynnwys y byddwch yn ei ddatblygu.
Byddwch yn gweithio i ddeall anghenion ein cynulleidfa ac yn cynhyrchu cynnwys sy'n ymgysylltu â nhw'n effeithiol, fel tudalennau gwe, newyddion, e-byst a negeseuon ar ein cyfryngau cymdeithasol. Byddwch hefyd yn arwain eich cydweithwyr i baratoi cynnwys sy’n bodloni anghenion defnyddwyr ac sy’n cyd-fynd â’n canllawiau brandio a hygyrchedd.
Amdanoch chi
I gael eich ystyried yn Swyddog Cynnwys, bydd angen y canlynol arnoch:
- Rhuglder yn y Gymraeg a'r Saesneg
- Profiad mewn rôl ysgrifennu neu olygu
- Profiad o ymchwilio a dadansoddi anghenion cynulleidfaoedd
- Profiad o strwythuro, dylunio a chyhoeddi cynnwys sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ar-lein a/neu all-lein
- Profiad o drosi deunydd cymhleth i Gymraeg a Saesneg clir
- Profiad o gefnogi eraill i ddatblygu cynnwys ar-lein ac all-lein
- Gwybodaeth ragorol o ramadeg ac atalnodi Cymraeg a Saesneg
- Dealltwriaeth o gynnwys HTML, systemau rheoli cynnwys gwefannau ac optimeiddio peiriannau chwilio
- Gwybodaeth ymarferol o sut i gynhyrchu cynnwys hygyrch
- Y gallu i ddehongli data ansoddol a meintiol (gan gynnwys dadansoddeg gwe)
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12pm ar 4 Rhagfyr 2023.
Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Ysgrifennwr Copi, Crëwr Cynnwys, Swyddog Gweithredol Cynnwys, Swyddog Cyfathrebu, Swyddog Marchnata, Dylunydd Cynnwys, Swyddog Cynnwys Digidol, Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Chysylltiadau Cyhoeddus, neu Swyddog Gweithredol Cyfathrebu Digidol.
Felly, os ydych chi am ddatblygu eich set sgiliau fel Swyddog Cynnwys, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.