Swydd:
Comisiynydd Plant a Dysgwyr
Lleoliad:
Caerfyrddin
Cyflog:
Yn unol â phrofiad
Cyfeirnod:
S4CCPAD
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
S4C
Dyddiad Cau:
19-04-2021

Comisiynydd Plant a Dysgwyr

 

Fel un o dîm Comisiynu S4C byddwch yn cyd-weithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol i weithredu strategaeth cynnwys aml-lwyfan y sianel.

Bydd gennych gyfrifoldeb arbennig dros gomisiynu a goruchwylio darpariaeth plant a dysgwyr S4C. Byddwch yn gyfrifol am gynllunio, esblygu a gweithredu strategaeth eich genre ar draws holl lwyfannau darlledu a chyhoeddi cynnwys S4C.

Byddwch yn ddolen gyswllt allweddol, adeiladol a blaenweithgar gyda’r sector gynhyrchu annibynnol. Byddwch yn atebol yn y lle cyntaf i’r Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol.

Manylion Eraill

Lleoliad:Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ ond disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.

Rydym yn annog pob cyflogai i gael cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith ac yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg, megis gweithio ystwyth, ynghyd ag ystod eang o batrymau gwaith gwahanol. Mae pob un ohonynt yn amodol ar anghenion busnes.

Oherwydd yr achosion o Coronafeirws, mae S4C wedi lleihau mynediad i'w swyddfeydd ar gyfer staff nad ydynt yn ymwneud â darlledu er mwyn sicrhau diogelwch a lles unigolion ac i ddiogelu darlledu.  Felly, efallai y bydd gofyn i chi weithio o bell wrth ymuno â'r sefydliad os yw'r cyfyngiadau hyn yn dal i fod ar waith.

Cyflog: Yn unol â phrofiad

Cytundeb: 5 mlynedd

Oriau gwaith:35 ¾ yr wythnos.  Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Cyfnod prawf:    6 mis

Gwyliau:  Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

 

Ceisiadau Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 y prynhawn ar Ddydd Llun 19 Ebrill 2021 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.  Nid ydym yn derbyn CV.

Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol. 

Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau.  Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod.