Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu a Digwyddiadau fydd yn creu cyfathrebiadau effeithiol i ysbrydoli pobl i ddyheu am fyd sy'n gyfoethocach o ran byd natur. Bydd y rôl yn helpu i gyflawni strategaeth gyfathrebu'r DU yng Nghymru, gan sicrhau bod yr hyn a ddywedwn yn cyffroi ac yn ysbrydoli pobl i chwarae eu rhan i achub byd natur, gan gynnwys trwy ddigwyddiadau.
Mae'r rôl hon yn perthyn i'r adran Codi Arian a Chyfathrebu fel rhan o'r tîm Cyfathrebu. Bydd y rôl yn cyfrannu tuag at gynllunio a darparu gweithgareddau sy'n gysylltiedig â chyfathrebu i gynyddu cefnogaeth i'r RSPB a chyflawni amcanion yr RSPB yng Nghymru.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
arwain y gwaith o reoli ceisiadau gan y cyfryngau ac ymholiadau gan y cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â meithrin a chynnal perthynas â newyddiadurwyr yn y wlad dan sylw, cysylltiadau eraill yn y cyfryngau, a phartneriaid.
datblygu cynnwys a negeseuon i gefnogi’r gwaith o gyflawni amcanion allweddol yr RSPB yn y wlad dan sylw a’r DU gyfan – gan gynnwys deunydd ar gyfer cyhoeddiadau, blogiau, tudalennau gwe a sianeli cyfryngau cymdeithasol yr RSPB ac yn allanol.
deall a lliniaru materion a allai achosi niwed i enw da’r RSPB ym mhob sianel gyfathrebu.
gweithio gyda chydweithwyr i lunio a chytuno ar raglen o ddigwyddiadau ar gyfer y wlad gyfan, a’i gweithredu, gan arwain y gwaith hyrwyddo a marchnata.
paratoi briffiau proffesiynol a hyfforddiant ar gyfathrebu sy’n galluogi llefarwyr yr RSPB i gyfleu amcanion yr RSPB yn glir i’r cyfryngau ac i gynulleidfaoedd eraill.
Bydd y Swyddog Cyfathrebu a Digwyddiadau yn hyderus yn rhoi sylw i sawl tasg ar unwaith ac yn gallu rheoli portffolio amrywiol o weithgareddau cyfathrebu, drwy nifer o sianeli a digwyddiadau. Bydd yn sicrhau bod allbynnau’n cael eu cynllunio’n dda, eu bod yn cyrraedd safonau y cytunwyd arnynt, ac yn cael eu gwerthuso. Bydd yn ymwneud ag amrywiaeth o dimau prosiect, yn gallu troi strategaeth yn gamau gweithredu mewn ffordd greadigol, ac yn sicrhau bod y blaenoriaethau’n cael eu cyflawni.
Dyddiad cau: 23:59, Dydd Mercher 16 Hydref 2024
Rydym yn bwriadu cynnal cyfweliadau ar gyfer y swydd hon o 30 Hydref ymlaen.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â sioned.jones@rspb.org.uk.
Fel rhan o’r broses ymgeisio hon, gofynnir i chi lenwi ffurflen gais gan gynnwys tystiolaeth ynghylch sut rydych chi’n bodloni’r sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad a restrir uchod.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu RSPB cynhwysol ac amrywiol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a’u bod yn gallu bod yn nhw eu hunain. Er mwyn gwireddu ein gweledigaeth o greu byd sy’n gyfoethocach o ran byd natur, mae arnom angen mwy o bobl, a phobl fwy amrywiol i helpu byd natur. Ar hyn o bryd, mae pobl o liw a phobl anabl yn cael eu tangynrychioli ar draws y sector amgylcheddol, hinsawdd, cynaliadwyedd a chadwraeth. Os ydych chi’n ystyried eich hun yn berson o liw a/neu anabl, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn cael cais gennych chi. Cysylltwch â ni i drafod unrhyw gymorth ychwanegol y bydd ei angen arnoch i gwblhau eich cais.
Mae'r RSPB yn gyflogwr cyfle cyfartal. Mae Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 yn berthnasol i’r swydd hon.
Mae’r RSPB yn noddwr trwyddedig. Nid yw’r swydd hon yn gymwys ar gyfer Nawdd Visa y DU – bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â Hawl i Weithio yn y DU yn barod er mwyn cael cynnig contract cyflogaeth.
Cyn gwneud cais am y swydd hon, rydym yn argymell eich bod yn darllen y nodiadau canllaw i ymgeiswyr sydd ynghlwm ar frig yr hysbyseb hwn.