Swydd:
Aseswr Gofal Plant (0.8)
Cyflog:
£23,893 - £25,927
Cleient:
Coleg Ceredigion
Mae croeso I bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn saesneg.
Daw’r swydd hon o fewn y maes Iechyd, Gofal Plant, Sylfaen a Mynediad. Lleolir yr adran gofal plant yn bennaf ar Gampws Rhydaman, ac mae'n recriwtio nifer mawr o ddysgwyr llawn amser a rhan-amser ar draws ardal ddaearyddol eang. Bydd y deilydd swydd llwyddiannus yn gweithio gyda staff gofal plant a'r ymgeiswyr hynny sy'n mynychu'r coleg yn rhan-amser er mwyn cyflawni cymwysterau galwedigaethol mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant.
Bydd disgwyl i'r Aseswr Gofal Plant:
- Gynnal asesiadau o ddysgwyr ar draws rhaglenni CCLD Lefelau 1, 2 a 3 ar safle ac yn y coleg.
- Defnyddio a chynnal gweithdrefnau olrhain, dysgu ac asesu priodol dan gyfarwyddyd staff cwricwlwm.
- Cynnal gwiriadau iechyd a diogelwch ar leoliadau gan gynnwys gwaith papur fetio a monitro.
- Cynorthwyo staff y Gyfadran i gynnal safonau asesu effeithiol yn unol â gofynion y cwrs a meini prawf penodol sy'n seiliedig ar arsylwi uniongyrchol a thrafodaeth broffesiynol.
- Mynychu sesiynau adeiladu portffolio a chefnogi ymgeiswyr ynddynt pan fo angen.
- Cymryd rhan mewn cyfarfodydd Aseswr a darparu'r dystiolaeth ofynnol i ddilyswyr allanol.
- Cynorthwyo gyda'r gwaith cyffredinol o weinyddu, marchnata, cofrestru a recriwtio ymgeiswyr.
- Cysylltu â dilyswyr mewnol y cwricwlwm a darparu'r holl ofynion perthnasol yn ymwneud ag ansawdd iddynt.
- Dilysu portffolios ymgeiswyr yn fewnol drwy feddu ar gymhwyster Dilysu Mewnol cydnabyddedig neu fod yn barod i weithio tuag at hyn.
- Cefnogi dysgwyr drwy’r broses gwirio DBS a chwblhau gwaith papur priodol.
- Mynychu cyfarfodydd rheolaidd gyda’r Tîm Rheoli, a chyfrannu iddynt.
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.