Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol
-
Location
Unknown
-
Sector:
-
Job type:
-
Published:
2 months ago
-
Expiry date:
2019-01-10
-
Client:
#
Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol
£48,650 - £58,185
Parhaol, llawn amser
Casnewydd
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol
Dyddiad cau: 12yp 10 Ionawr 2019
Cymwysterau Cymru yw'r sefydliad annibynnol sy'n rheoleiddio cymwysterau a'r system gymwysterau yng Nghymru. Mae'n Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru ac mae'n gyfrifol am sicrhau bod cymwysterau a’r system cymwysterau yn effeithiol o ran diwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru, ac ennyn hyder y cyhoedd yn y rhain.
Y Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol sy'n gyfrifol am sicrhau bod gan y sefydliad y safonau uchaf ar waith o ran llywodraethu effeithiol sydd eu hangen ar sefydliad sector cyhoeddus, a'i fod yn gallu dangos hyn. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gan y sefydliad strwythur llywodraethu effeithiol ar waith er mwyn gwneud penderfyniadau cadarn. Mae hyn yn cynnwys gwaith cynllunio a gweinyddu holl gyfarfodydd Y Bwrdd, Pwyllgorau a'r Pwyllgor a'r holl bwyllgorau'r Tîm Rheoli Gweithredol - gan gyfuno'r gwaith o wneud penderfyniadau, rheoli risgiau strategol, llif gwybodaeth a phrosesau sicrhau. Bydd hyn yn cefnogi'r diwylliant, yr ymddygiadau, y systemau a'r prosesau sy'n cynrychioli sefydliad sy'n cael ei lywodraethu'n dda ac yn perfformio'n uchel.
Teitl y swydd: Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol
Cyflogwr: Cymwysterau Cymru
Lleoliad: Q2, Parc Imperial, Casnewydd NP10 8AR
Contract: Parhaol, amser llawn. Gellir trafod ceisiadau am batrymau gwaith eraill, gan gynnwys gwaith Rhan-Amser, Rhannu swydd a secondiadau, yn y cyfweliad
Cyflog a Buddiannau Band 5 – ystod cyflog £48,650 - £58,185
Yn ogystal â chyflog, rydym yn cynnig 30 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â gwyliau cyhoeddus a chau'r swyddfa am hyd at dri diwrnod dros y Nadolig), trefniadau gweithio hyblyg ac aelodaeth o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil.
Mae'n bosibl y bydd modd talu treuliau adleoli ar gyfer penodiadau parhaol.
Oriau gwaith: 37
Adran: Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol
Yn atebol i: Cyfarwyddwr Gweithredol - Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10 Ionawr 2019 – hanner dydd
Cyfweliad: 25 Ionawr 2019