S4C
Cleient
By submitting your details you agree to our T&C's
-
Social Media Officer
Social Media Officer This is an advertisement for a Social Media Officer for which the ability to communicate in Welsh and English is essential. Please see the Welsh advert for more information.
-
Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol
Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol Lleoliad: Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin, Swyddfa S4C, Caernarfon neu Swyddfa S4C, Caerdydd. Cyflog: Yn unol â phrofiad Cytundeb: 12 Mis Oriau gwaith: 35¾ yr wythnos.Oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc. Cyfnod prawf: 6 mis Cefndir i’r Swydd Mae 2019 yn flwyddyn enfawr i chwaraeon ar S4C wrth i ni ddarlledu digwyddiadau gan gynnwys Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, Tour de France, gemau rhagbrofol Euro 2020, Cwpan Rygbi'r Byd, Rali GB Cymru a nifer o ddigwyddiadau eraill. Nawr mae S4C yn ehangu'r tîm digidol ac yn chwilio am berson ychwanegol i weithio ar y cyfrifon cyfryngau cymdeithasol gyda ffocws yn bennaf ar chwaraeon. Y Person Delfrydol Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus â diddordeb gwirioneddol mewn chwaraeon Cymreig a'r cyfryngau digidol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus â gwybodaeth a dealltwriaeth eang o chwaraeon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu adeiladu perthnasau positif gyda phobl, sefydliadau a dylanwadwyr er mwyn hyrwyddo cynnwys S4C ymhellach gan ddefnyddio technegau megis trawsbostio (crossposting) a phartneriaethau taladwy (paid partnerships). Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu mesur effaith y gwaith ac yn gallu gwerthuso'r ymdrech a'r buddsoddiad. Hefyd bydd ag un llygad ar y dyfodol, beth sy'n dilyn Facebook? Ble ddylai S4C fod nesaf yn y byd digidol? Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu bod yn greadigol o ran cynnwys ac yn gallu cynhyrchu cynnwys o safon sy'n dal y llygaid ac yn creu swn wrth dynnu pobl at rhaglenni chwaraeon S4C. Manylion eraill Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn. Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun.Disgwylir i chi gyfrannu 5%. Ceisiadau Dylid anfon ceisiadau erbyn 12:00 y prynhawn ar ddydd Mawrth 5 Mawrth at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.Nid ydym yn derbyn CV.