Gyda Covid-19 a gadael yr Undeb Ewropeaidd yn parhau i gael effaith ar yr economi a neb yn gwybod sut mae pethau’n mynd i edrych dros y flwyddyn nesa, mae chwilio am swydd newydd yn gallu edrych yn heriol iawn ar hyn o bryd.
Yn naturiol, mae llawer o gwmnïau yn ceisio bod mor ofalus a phragmatig ag sy’n bosib ac mae hynny’n golygu dal yn ôl rhag cyflogi staff llawn amser nes y byddan nhw gyda syniad gwell a chliriach o sut fydd yr economi yn edrych yn y dyfodol.
Er bod ‘na swyddi parhaol allan yna, fel mae un golwg ar hysbysfwrdd Swyddle yn dangos, mae ‘na opsiynau eraill sydd werth edrych arnyn nhw hefyd tan mae pethau’n sefydlogi.
Os wyt ti wedi arfer bod â gwaith parhaol neu’n chwilio am dy swydd cyntaf ar ôl gadael addysg uwch, efallai nad wyt ti wedi meddwl am tempio. Ond mae rhesymau da pam y gallai tempio fod yn opsiwn gwych i ti a dy yrfa.
Dyma 5 rheswm pam ei bod hi’n werth edrych ar tempio fel opsiwn:
Mae tempio’n gyfle gwych i ennill llawer iawn o brofiad mewn amrywiaeth o swyddi a sefydliadau gwahanol. Mae tempio’n gallu ehangu dy sgiliau di mewn amser byr wrth i ti addasu a cheisio dod o hyd i dy le mewn tîm wrth orfod dysgu swyddogaethau newydd. Mae hefyd yn gallu bod yn brofiad cyffroes a gwerth chweil wrth i ti ddysgu am y gwahanol ddiwylliannau mewn amgylcheddau gwaith amrywiol.
Os wyt ti’n darganfod dy hun mewn picl ac mewn cylch dieflig o geisio am swyddi, gall tempio ddarparu ateb tymor byr i ddiffyg incwm. Wrth weithio fel temp a derbyn cyflog, galli di barhau â’r chwilio am dy swydd berffaith.
Mae rhan fwyaf ohonom ni wedi ystyried newid gyrfa ar ryw bwynt, ond faint ohonom ni sydd wedi peidio rhag ofn na fyddai’r swydd yna at ein dant? Os wyt ti’n ystyried newid gyrfa, yn newydd i’r farchnad waith neu’n dychwelyd i’r gwaith wedi cyfnod o absenoldeb, gall tempio gynnig cyfleoedd i flasu swyddi gwahanol heb i ti fynd i mewn dros dy ben a dy glustiau. Gall gwaith temp hefyd fod yn amser i ti ystyried a gwneud penderfyniad gwybodus am ba yrfa neu swydd yr hoffet ti fynd amdani yn y dyfodol.
Os wyt ti’n tempio am gyfnod, dychmyga pa mor dda fydd dy CV di’n edrych gyda’r cyfrifoldebau a phrofiad rwyt ti wedi ei ennill. Ac mae rhoi profiadau tempio ar dy CV hefyd yn dangos fod gen ti’r awydd ac uchelgais i weithio.
Mae tempio hefyd yn cynnig cyfle gwych i rwydweithio a chyfarfod pobl newydd yn y maes yr hoffet ti weithio ynddo. A dyw hi ddim yn anghyffredin i weithiwr temp fynd ymlaen i gael gwaith parhaol gyda chwmni maen nhw wedi bod yn tempio gyda nhw gan fod tempio’n gyfle i ddangos dy werth a dod i adnabod y gweithlu ymlaen llaw.
Does dim llawer o swyddi’n gallu cynnig mwy o hyblygrwydd na gwaith temp. Os wyt ti’n chwilio am fwy o falans rhwng gwaith a hamdden neu’n chwilio am swydd y galli di ffitio pethau eraill fel astudio, diddordebau neu fod yn rhiant o’i gwmpas, mae tempio ateb lot fawr o ofynion bywyd.
Rydym ni yma yn Swyddle’n cynnig gwasanaeth recriwtio i gyflogwyr ar hyd a lled Cymru. Os oes gen ti ddiddordeb mewn dod yn weithiwr temp cysyllta gyda ni i weld sut allwn ni dy helpu di.
A chofia bod modd i ti lwytho dy CV ar ein gwefan er mwyn gallu ceisio am unrhyw swydd sy’n cael ei hysbysebu yno a chael dy cyflwyno i gyflogwyr ar gyfer swyddi addas.